SATURDAY 02 DECEMBER 2023
SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m001svhq)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.
SAT 05:30 Richard Rees (m001svj9)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.
SAT 07:00 Sioe Frecwast (m001t0t0)
Daniel Glyn: Miwsig Gorau’r Bore ar Radio Cymru 2
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Daniel Glyn. Music and entertainment breakfast show with Daniel Glyn.
SAT 09:00 Tudur Owen (m001t0sl)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.
SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m001t0sn)
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment with Shelley Rees and Rhydian Bowen Phillips.
SAT 14:00 Chwaraeon Radio Cymru (m001t0sq)
Caerdydd v Scarlets
Sylwebaeth fyw o gêm Caerdydd v Scarlets yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, a'r diweddaraf ar draws y meysydd chwarae. Live commentary from Cardiff Rugby v Scarlets in the URC.
SAT 17:30 Marc Griffiths (m001t0ss)
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.
SAT 21:00 Ffion Emyr (m001t0sv)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn. Music and companionship for Saturday night.
SUNDAY 03 DECEMBER 2023
SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m001t0sx)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.
SUN 05:30 Linda Griffiths (m001t0t1)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.
SUN 07:00 Sioe Frecwast (m001t0wc)
Mirain Iwerydd: Miwsig Gorau’r Bore ar Radio Cymru 2
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Mirain Iwerydd. Music and entertainment breakfast show with Mirain Iwerydd.
SUN 10:00 Swyn y Sul (m001t0tf)
Sioned Webb
Y cerddor a'r cyfansoddwr Sioned Webb gyda ei dewis amrywiol o gerddoriaeth ar fore Sul.
SUN 12:00 Yr Oedfa (m001t0tk)
Sul Cyntaf Adfent
Oedfa dan ofal Peter Thomas, Aberystwyth ar Sul cyntaf yr Adfent. Mae'n trafod yr Adfent fel cyfnod o ddisgwyl yn eiddgar gan bwysleisio dyfodiad Crist, y Gair yn dod yn gnawd, yr angen am sylweddoliad ei fod ymysg y bobl, a thrwy'r sylweddoliad mwynhau ei bresenoldeb. Mae Duw gyda ni.
SUN 12:30 Bwrw Golwg (m001t0tp)
Gwenfair Griffith yn trafod 100 Cymru
Gwenfair Griffith yn trafod ymgyrch 100 Cymru i blannu 100 eglwys newydd mewn 10 mlynedd.
Ceir hanes sut y daeth Rachel Radbourne a'i gŵr i Langefni i blannu eglwys y Goleudy.
Mae John Roberts yn sgwrsio gydag aelodau a mynychwyr eglwys Y Ffynnon yn Llandysul, tra bod Steff Morris, Llandysul a Josh Edwards Blaenau Ffestiniog yn trafod bwriad a nod yr ymgyrch.
SUN 13:00 Cofio (m0011zsd)
Byd y Gân
Ai Cymru yw Gwlad y Gân? T Glynne Davies sy'n holi siopwyr marchnad Llanelli yn 1979. Gwenan Gibbard sy'n mynd ar ôl y geiriau "anarferol" sydd ym myd canu gwerin a cherdd dant - o Ffylantin-tw i Ffal-di-ral i Titrwm Tatrwm! Be di ystyr y geiriau yma? Dora Herbert Jones, a oedd yn Lywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn adrodd taith arbennig i ganu i Ffrainc.
Mrs Nin Williams, Dinas Mawddwy yn siarad am ei thad, yr hyfforddwr canu Watcyn o Feirion. Roedd Watkin Jones yn arweinydd corau, yn fardd gwlad, yn gosod cerdd dant a bu hefyd yn cadw'r siop a'r post yn Capel Celyn am flynyddoedd. Roedd o hefyd yn amlwg iawn yn sefydlu Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.
O ganu cerdd dant i roc a phop a sgwrs gyda Ian Morris o'r band Tynal Tywyll a oedd yn eu hanterth yn yr 80au a dechrau'r 90au.
Ydych chi'n cofio Rib, Ard, Icl a Taz? Bu clyweliadau o gwmpas Cymru ym Mehefin 1998 am fechgyn i greu 'boy band' newydd yn Gymraeg. Mi ddaru 160 o fechgyn o bob cwr o'r wlad gael clyweliad, ond y pedwar a ddaeth i'r brig oedd Rhydian Bowen Phillips, Arwel Roberts, Mark Skone a Trystan Jones! Mega!
Ar Sul Cynta'r Adfent, Marian Griffith Williams sy'n holi Sioned Penllyn am hen draddodiad y Plygain adeg y Nadolig a’r Calan a chawn gyfle i glywed cân arbennig gan y brodyr Ted, Tom ac Osmond, sef Parti Fronheulog yn canu "Wel Dyma’r Borau Gorau i Gyd".
SUN 14:00 Ffion Dafis (m001t0ty)
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Ffion yn cael cwmni'r cerddor Angharad Jenkins sydd yn sgwrsio am ei albwm newydd 'Calennig' ar y cyd gyda'r cerddor Huw Warren.
Rhian Blythe sydd yn sgwrsio am gynhyrchiad 'Swyn', Theatr Genedlaethol Cymru, tra bod Izzy Rabey yn cwrdd â'r artist tatŵ a chelf gain Billy Bagilhole.
Llwyfannu addasiad Daf James o ddrama 'Tuesday', Alison Carr mae disgyblion Ysgol Gyfun Glantaf, tra bod y dramodydd Ciaran Fitzgerald yn sgwrsio am ei waith celfyddydol fel awdur, dramodydd a phodlediwr anabl.
Ac yna i gloi, y cysylltiad rhwng y celfyddydau a natur sydd yn mynd â bryd yr artist Heledd Wyn Hardy.
SUN 16:00 Ar Lan Afon (m001t0v6)
Yr Afon Dyfi
Jon Gower ac Elinor Gwynn sy'n crwydro glannau rhai o afonydd Cymru yn hel eu hanes, yn cwrdd â'r bobl sy'n byw ar eu glannau, yn pysgota'u dyfroedd, ac yn clywed storiau o'r gorffennol.
SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m001t0t6)
Eric Jones
Amrywiaeth o emynau yng nghwmni'r cerddor, Eric Jones. Congregational singing presented by Eric Jones.
SUN 17:00 Dei Tomos (m001t0vd)
Rhaglen arbennig o Ŵyl Gerallt
Rhaglen arbennig o Ŵyl Gerallt ym Mhlas Mostyn yn dathlu 500 mlynedd ers Eisteddfod Caerwys 1523.
Yn cyfrannu i’r rhaglen mae Gwenallt Llwyd Ifan, Peredur Lynch, Gruffudd Antur, Emyr Lewis, Nia Powell ac Alan Llwyd.
SUN 18:00 Beti a'i Phobol (m001t0vl)
Rory Francis
Rory Francis yr amgylcheddwr, ymgyrchydd a chyfathrebwr sy'n gweithio dros Gymru wyrddach mewn byd mwy cynaliadwy yw gwestai Beti George. Mae'n siarad 9 iaith ac fe ddechreuodd yr awch i ddysgu ieithoedd yn 6 mlwydd oed ym Mhenbedw. Rhyw 6 mlynedd nôl fe ddechreuodd ddysgu Rwsieg, ac mae'n weddol rhugl bellach yn yr iaith yna hefyd.
SUN 19:00 Ambell i Gân (m001t0vs)
Sesiwn Bethan Ruth
Gwenan Gibbard sy’n cyflwyno cyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth werin Cymru. Yn y rhaglen gyntaf o’r gyfres newydd yma mae Gwenan yn sgwrsio efo Gavin Ashcroft a chawn sesiwn newydd sbon gan y gantores Bethan Ruth.
SUN 20:00 Ar Eich Cais (m001t0vx)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.
SUN 21:00 John ac Alun (m001t0w1)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.
MONDAY 04 DECEMBER 2023
MON 00:00 Gweler BBC World Service (m001t0w5)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.
MON 05:30 John Hardy (m001t0wb)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.
MON 07:00 Sioe Frecwast (m001t0v0)
Rhydian Bowen Phillips: Miwsig Gorau’r Bore ar Radio Cymru 2
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.
MON 09:00 Lisa Gwilym (m001t0v4)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.
MON 11:00 Bore Cothi (m001t0vb)
Hel atgofion efo John “Snowball” Hughes wrth iddo ymddeol wedi gyrfa hir yn rhedeg siop deganau yn Llangefni.
Munud i Feddwl yng nghwmni’r Parch. Euron Hughes.
Ilid-Anne Jones sy’n edrych ar fywyd a gyrfa'r gantores Maria Callas, ar ganmlwyddiant ei geni.
Sgwrs efo Cefin Vaughan wrth i Bois y Frenni lansio CD newydd.
MON 13:00 Dros Ginio (m001t0vj)
Rhodri Llywelyn yn cyflwyno
Mi awn ni'n fyw i Dubai i sgwrsio gyda'r newyddiadurwr Russell Isaac sydd yno ar gyfer Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig - COP 28, a mi wnawn ni holi pam bod y ffaith fod papur newydd y Telegraph ar werth yn cynhyrfu'r dyfroedd gwleidyddol?
Ac wrth i'r safleoedd sydd wedi'i dynodi'n "Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol" newid enw i "Tirwedd Cenedlaethol", y Prif Weithredwr, John Watkins, sy'n egluro'r prif resymau dros yr ail frandio;
Sgwrs efo'r cyflwynydd Jess Davies sydd wed'i henwi'n Llysgennad Siarter Diogelwch Menywod Caerdydd ar gyfer yr ymgyrch 'Caerdydd, Diogel Am Byth';
Ac mi awn ni i'r meysydd chwarae yng nghwmni Heledd Anna, Gareth Roberts a Mei Emrys.
MON 14:00 Ifan Jones Evans (m001t0vq)
Ken Hughes sy'n cadw cwmni i Ifan Jones Evans heddiw, i sôn am ei newyddion diweddaraf, ac i roi'r byd yn ei le.
Hefyd, sgwrs gyda'r gantores Buddug sy'n Drac yr Wythnos yr wythnos hon.
MON 17:00 Post Prynhawn (m001t0vw)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.
MON 18:00 Cofio (m0011zsd)
[Repeat of broadcast at
13:00 on Sunday]
MON 19:00 Rhys Mwyn (m001t0w0)
Sesiwn fyw gan Meinir Gwilym
Sesiwn fyw gan Meinir Gwilym wrth iddi ryddhau ei chasgliad newydd o ganeuon 'Caneuon Tyn yr Hendy'.
MON 21:00 Caryl (m001t0w4)
Emma Lewes-Jarrams o gwmni Theatr Aberteifi yn sôn am y pantomeim Robin Hood, a Siân Parry sydd yn dewis pigion teledu yr wythnos. Music and fun with Caryl Parry Jones.
TUESDAY 05 DECEMBER 2023
TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m001t0w9)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.
TUE 05:30 John Hardy (m001t0wf)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.
TUE 07:00 Sioe Frecwast (m001t0xq)
Rhydian Bowen Phillips: Miwsig Gorau’r Bore ar Radio Cymru 2
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.
TUE 09:00 Lisa Gwilym (m001t0xv)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.
TUE 11:00 Bore Cothi (m001t0wr)
Llinos Halgarth sy’n sgwrsio heddiw am fentro ym myd busnes.
Munud i Feddwl yng nghwmni Rhian Medi.
Mae Côr Meibion Dinbych yn dathlu 35 mlynedd eleni, a Goronwy Wynne sy’n hel atgofion am hanes y côr.
Sgwrs efo Bethan Harkin am ddathliadau Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Tawe.
TUE 13:00 Dros Ginio (m001t0wt)
Jennifer Jones yn cyflwyno
Jennifer Jones yn cyflwyno.
Ar Ddiwrnod Gwirfoddoli cawn glywed gan Hedd Tomos o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am adnodd newydd sydd yn lansio heddiw fydd yn neud hi'n haws i bobl chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli a Gwenno Parry sy'n sôn am ei phrofiadau'n gwirfoddoli fel person ifanc;
Wedi i Gyngor y Celfyddydau gyhoeddi na fyddan nhw'n ariannu TRAC Cymru ar ôl 1af Ebrill 2024, Angharad Jenkins sy'n ystyried beth fydd goblygiadau hynny i ddyfodol cerddoriaeth werin yng Nghymru?
A pham fod angen sylw i hunaniaeth amrywiol y Rhondda? John Geraint sy'n yn trafod.
TUE 14:00 Ifan Jones Evans (m001t0wy)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.
TUE 17:00 Post Prynhawn (m001t0x2)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.
TUE 18:00 Chwaraeon Radio Cymru (m001t69b)
Cymru v Yr Almaen
Sylwebaeth fyw o gêm Cymru v Yr Almaen yng Nghynghrair Cenhedloedd y menywod. Wales v Germany in the UEFA Women's Nation's League.
TUE 20:30 Caryl (m001t0xb)
Elin Mair Wynne sydd yn son am Cymfanfa Carolau Mynydd Mechell, a Owen Williams fydd yn rhoi ambell i ryset am coctels a moctels Nadoligaidd!
WEDNESDAY 06 DECEMBER 2023
WED 00:00 Gweler BBC World Service (m001t0xg)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.
WED 05:30 John Hardy (m001t0xl)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda Daniel Jenkins-Jones yn lle John Hardy. Early breakfast with Daniel Jenkins-Jones sitting in for John Hardy.
WED 07:00 Sioe Frecwast (m001t0yy)
Rhydian Bowen Phillips: Miwsig Gorau’r Bore ar Radio Cymru 2
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.
WED 09:00 Lisa Gwilym (m001t0z2)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.
WED 11:00 Bore Cothi (m001t0z6)
Y delynores Delyth Jenkins
Sgwrs efo’r delynores Delyth Jenkins sydd newydd ysgrifennu ei llyfr cyntaf ar gyfer plant, wedi ei ysbrydoli gan atgofion o’i phlentyndod.
Trystan Lewis efo Munud i Feddwl.
Syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig “vinatge” gan John Rees.
WED 13:00 Dros Ginio (m001t0zb)
Vaughan Roderick
Trin a thrafod Cymru a'r byd. Vaughan Roderick sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
WED 14:00 Ifan Jones Evans (m001t0zg)
Gary Slaymaker yn westai
Gary Slaymaker sy'n cadw cwmni i Ifan Jones Evans i sôn am ei hoff bethau Nadoligaidd.
Hefyd, y gorau o wefan Cymru Fyw yng nghwmni Gwennan Evans.
WED 17:00 Post Prynhawn (m001t0zl)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.
WED 18:00 Ambell i Gân (m001t0vs)
[Repeat of broadcast at
19:00 on Sunday]
WED 19:00 Mirain Iwerydd (m001t0zq)
Cerddoriaeth newydd Cymru. New Welsh music.
WED 21:00 Caryl (m001t0zt)
Tyrcwn Nadolig!
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Ffion Emyr yn sedd Caryl Parry Jones.
Sgwrs gydag Emily Rees o Hwlffordd am Dyrcwn Nadolig!
Anfonwch ebost at Caryl@bbc.co.uk Ffoniwch ni neu anfonwch Whatsapp ar 03703 500 500 (Yn ystod y rhaglen yn unig). Neges Destun 67500
THURSDAY 07 DECEMBER 2023
THU 00:00 Gweler BBC World Service (m001t0zy)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.
THU 05:30 John Hardy (m001t102)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda Daniel Jenkins-Jones yn lle John Hardy. Early breakfast with Daniel Jenkins-Jones sitting in for John Hardy.
THU 07:00 Sioe Frecwast (m001t111)
Geraint Hardy: Miwsig Gorau’r Bore ar Radio Cymru 2
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Geraint Hardy. Music and entertainment breakfast show with Geraint Hardy.
THU 08:30 Sioe Frecwast: Naw o'r 90au (m001t115)
Miwsig Gorau'r 90au!
Taith nôl i ddegawd y Spice Girls, Eden, Big Leaves ac Oasis! Take a trip back to the Nineties.
THU 09:00 Lisa Gwilym (m001t119)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.
THU 11:00 Bore Cothi (m001t10x)
Trip arall i archif BBC Cymru, yng nghwmni Hywel Gwynfryn.
Mari Emlyn efo Munud i Feddwl.
Sgwrs efo Alys a’i mam Nia, am yr her enfawr oedd yn gwynebu Alys wedi damwain ddifrifol.
Frances Finney a Marcia Price fydd yn trafod eu profiad o ddysgu Cymraeg.
THU 13:00 Dros Ginio (m001t110)
Catrin Haf Jones yn cyflwyno
Catrin Haf Jones yn cyflwyno,
Yr Athro Angharad Davies a Natalie Jones sy'n trafod datblygiadau ym maes Clefyd y Crymangelloedd;
Dr Non Williams o Cyswllt Ffermio sy'n trafod ei hymweliad â Chynhadledd Flynyddol Cymdeithas Gwyddor Pridd Prydain a Chymdeithas Gwyddor Pridd Iwerddon, yn Belfast;
Ac wrth i brifysgol ym Michigan rannu ymchwil sy'n dangos bod pobl ifanc yn colli'r grefft o siarad mân, y cymdeithasegydd Cynog Prys sy'n trafod y ddawn, ac yn ystyried os ydi Cymry yn rhagori?
THU 14:00 Ifan Jones Evans (m001t114)
Efan o Dadleoli yn westai
Efan o'r grŵp Dadleoli sy'n cadw cwmni i Ifan i sôn am fersiynau newydd o ganeuon Nadolig y mae'r grŵp newydd ryddhau.
Hefyd, Sean Walker â'r gerddoriaeth newydd ddiweddaraf.
THU 17:00 Post Prynhawn (m001t118)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.
THU 18:00 Hawl i Holi (m001t11d)
Yn fyw o Lanberis
Daw rhifyn mis Rhagfyr o Lanberis.
Y cyflwynydd yw Bethan Rhys Roberts.
Yn wynebu cwestiynau pobl yr ardal mae pennaeth Undeb Amaethwyr Cymru Guto Bebb, Sion Jones o’r Blaid Lafur, Sian Gwenllian – aelod o’r senedd gyda Phlaid Cymru a’r arweinydd busnes Eirug Druce.
Os am ymuno â'r gynulleidfa neu am ofyn cwestiwn yr e-bost yw hawliholi@bbc.co.uk
THU 19:00 Huw Stephens (m001t11g)
Ifan Davies yn cyflwyno
Sgwrs hefo Gwenno am ei phennod newydd o Curadur ar S4C a Dilwyn Llwyd o Neuadd Ogwen sydd yn plwgio mewn. Gwenno joins Ifan to chat about her new episode of Curadur on S4C.
THU 21:00 Caryl (m001t11j)
Shelley Rees yn cyflwyno
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Shelley Rees yn sedd Caryl Parry Jones.
"Trwy'r Traciau" arbennig heno yng nghwmni Sion Russell Jones... sgwrs a chân byw yn ei gwmni.
Anfonwch ebost at Caryl@bbc.co.uk Ffoniwch ni neu anfonwch Whatsapp ar 03703 500 500 (Yn ystod y rhaglen yn unig). Neges Destun 67500
FRIDAY 08 DECEMBER 2023
FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m001t11l)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.
FRI 05:30 John Hardy (m001t11n)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda Daniel Jenkins-Jones yn lle John Hardy. Early breakfast with Daniel Jenkins-Jones sitting in for John Hardy.
FRI 07:00 Sioe Frecwast (m001t11t)
Lisa Angharad: Miwsig Gorau’r Bore ar Radio Cymru 2
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.
FRI 09:00 Trystan ac Emma (m001t11v)
Caffi Largo Pwllheli
Rhaglen arbennig o Gaffi Largo Pwllheli.
FRI 11:00 Dom James (m001t12q)
Geraint Hardy yn cyflwyno
Geraint Hardy yn chwarae eich hoff fiwsig. Geraint Hardy plays your favourite music.
FRI 13:00 Dros Ginio (m001t124)
Dewi Llwyd yn cyflwyno
Wrth i Javier Milei ddechrau ar ei gyfnod fel arlywydd yr Ariannin, Elin Roberts sy'n ystyried pa effaith mae ei bolisïau yn debygol o'i gael ar y wlad.
Gyda chyfres ddiweddara Planet Earth III yn dirwyn i ben, y cynhyrchydd teledu Ffion Rees sy'n trafod sut mae creu naratif o amgylch anifeiliaid ar ôl eu dilyn o gwmpas am fisoedd ar fisoedd.
Ac mi awn ni i'r meysydd chwarae i drafod chwaraeon yr wythnos.
FRI 14:00 Tudur Owen (m001t128)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.
FRI 17:00 Post Prynhawn (m001t12d)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.
FRI 18:00 Lauren Moore (m001t12j)
Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Lauren Moore. Friday night music with Lauren Moore.
FRI 21:00 Nos Wener Ffion Emyr (m001t12p)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda thair awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.