SATURDAY 08 APRIL 2023

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m001knt9)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m001kntc)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m001kw42)
Daniel Glyn: Miwsig gorau’r bore ar Radio Cymru 2

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Daniel Glyn. Music and entertainment breakfast show with Daniel Glyn.


SAT 09:00 Tudur Owen (m001kw26)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m001kw29)
Caneuon Codi Calon gydag Osian Huw Williams

Y cerddor Osian Huw Williams yn dewis caneuon codi calon. Sylwebaethau'r wythnos gan Owain Llyr a straeon y we a'r cwis cyflym efo Trystan ap Owen.


SAT 14:00 Canrif o Gerddoriaeth y BBC (m001kw2d)
Taith gerddorol drwy ganrif o raglenni, sesiynau, gigs a gwyliau ar y BBC yng Nghymru! A musical journey through a century of gigs, sessions and festivals on the BBC in Wales.


SAT 17:30 Marc Griffiths (m001kw2m)
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Ffion Emyr (m001kw2r)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 09 APRIL 2023

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m001kw2v)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m001kw2z)
Sul y Pasg

Dechreuwch eich Sul y Pasg yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Easter Sunday with Linda Griffiths' favourite music.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m001kw3h)
Mirain Iwerydd: Miwsig gorau’r bore ar Radio Cymru 2

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Mirain Iwerydd. Music and entertainment breakfast show with Mirain Iwerydd.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m001kw05)
Gwawr Owen

Cerddoriaeth ar gyfer bore Sul, gyda Gwawr Owen. Music for Sunday morning, with Gwawr Owen.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m001kw07)
Oedfa Sul y Pasg

Oedfa Sul y Pasg dan arweiniad Rhys Llwyd a rhai aelodau o eglwys Caersalem, Caernarfon gan bwysleisio Crist y garddwr, yr Ail Adda sy'n adfer ein perthynas gyda Duw, gyda'n hunain, gyda'n cymdogion a chyda'r cread. Pwysleisir mai ein cymhwyso i waith y deyrnas a wneir a bod Crist yn ein galluogi a'n nerthu i wneud y gwaith hwnnw.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m001kw09)
John Roberts a'i westeion yn trafod y Pasg, costau byw a newyddion y dydd

John Roberts yn trafod y Pasg, costau byw a newyddion y dydd gyda Sion Brynach, Cytun - eglwysi ynghyd yng Nghymru, Megan Roberts o Christians against Poverty a Hywel Meredydd o Langefni.


SUN 13:00 Cofio (m001kw0c)
Y Pasg

Ymhlith y pitiau o'r archif yn ymwneud â'r Pasg mae'r Parch. Cynwil Williams a Ronwy Rogers yn ymweld â Gardd Gethsemane, a Mary Evans o Langristiolus yn sôn am yr hen arferiad o Glapio Wyau.

Ifan O. Williams sy'n holi Mr David Jenkins o’r Llyfrgell Genedlaethol am Gwpan Nant Eos, tra bod Lyn Ebenezer yn tywys Keith Davies ar bererindod canrif ers Gwrthryfel y Pasg.

Hefyd, John Hardy yn holi Huw Williams am sioe Jiwdas, Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd nol yn 1979.


SUN 14:00 Ffion Dafis (m001kw0f)
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth. Mae Ffion yn cael cwmni yr artist serameg Rhiannon Gwyn yn y stiwdio heddiw wedi iddi ddychwelyd yn ôl o America yn hybu ei gwaith, tra bod Sian Melangell Dafydd a Gwen Davies yn trafod sut mae merched yn cael eu portreadu mewn llenyddiaeth natur. Awdur drama newydd 'O Kyiv i'r Creigiau' ar gyfer BBC Radio Cymru ydy Ian Rowlands - cawn wybod mwy am y cynhyrchiad arbennig yma ganddo. Ydy comediwr yn amal yn cuddio tu ôl i'r chwerthin tybed? Steffan Alun ac Eleri Morgan sydd yn rhannu eu profiadau yn y maes perfformio yma. Arddangosfa 'Stori yr Arfordir' yn Oriel Canfas sydd yn cael sylw Anthony Evans, Jon Gower ac Elfyn Lewis, ac mae'r actores Carys Eleri, yr awdur a'r cynhyrchydd Roger Williams yn sgwrsio am ffilm 'Y Sŵn'.


SUN 16:00 O Kyiv i'r Creigiau (m001kw0h)
Drama verbatim gan Ian Rowlands, am brofiad Larysa Martseva yn ffoi o’r rhyfel yn Wcráin.

Mi oedd Larysa Martseva yn un o brif gynhyrchwyr teledu Wcráin, ond un diwrnod fe ddeffrodd a thu allan i ffenestr ei hystafell fyw gwelodd bod tanc Rwsiaidd yn anelu amdani. Wedi ychydig o fyw dan lach y Rwsiaid fe benderfynodd hi a dau deulu arall ddianc.

Dyma stori’r daith honno, stori ysgytwol sy’n arwain Larysa i Gymru. Cenedl loches yw Cymru a dyma hanes un a ddarganfu loches o erchyllterau'r rhyfel yn Wcráin.

Cast: Larysa Martseva, Ian Rowlands, Sian Reese-Williams, Yurii Radionov a Shorena Shoniia-Radionova.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m0016j3m)
Sul y Pasg

R. Alun Evans yn cyflwyno emynau ar gyfer Sul y Pasg. Congregational singing.


SUN 17:00 Dei Tomos (m001kw0l)
Cyfieithu, Cob a Cwlwm

Yn gwmni i Dei mae Manon Gwynant sydd wedi ymchwilio i waith JT Jones a'i gyfieithiadau o ddramâu Shakespeare, tra bod John Dilwyn yn olrhain hanes Cob Porthmadog, ugain mlynedd ers i'r toll i groesi'r Cob ddod i ben.

Hefyd, mae Ffion Enlli yn sgwrsio am ei nofel gyntaf - 'Cwlwm'.


SUN 18:00 Beti a'i Phobol (m001kw0n)
Al Lewis

Canwr a chyfansoddwr yn wreiddiol o Bwllheli ydy Al Lewis. Ymddangosodd Al, a’i gyfaill oes Arwel (Gildas) am y tro gyntaf ar ein sgrins teledu yn canu ‘Llosgi’ ar Cân i Gymru. Ers hynny ma Al wedi rhyddhau 5 albwm yn y Gymraeg. Yn ogystal â’i albwms yn y Gymraeg mae Al wedi rhyddhau 2 albwm Saesneg - ‘In the Wake'. Mae'n trafod galar gyda Beti a sut y gwnaeth marwolaeth ei Dad yn ifanc newid cwrs ei fywyd. Mae hefyd yn sôn am ei gyfnod yn Nashville a Llundain.


SUN 19:00 Y Talwrn (m001kw0q)
Talwrn Ysgolion

Talwrn arbennig, rhwng timau Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Ysgol Bro Morgannwg and Ysgol Gyfun Plasmawr compete in Radio Cymru's poetry competition.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m001kw0s)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m001kw0v)
Terwyn Davies yn cyflwyno

Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos, gyda Terwyn Davies yn sedd John ac Alun. Music and chat to bring the weekend to a close, with Terwyn Davies sitting in for John and Alun.



MONDAY 10 APRIL 2023

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m001kw0x)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m001kw0z)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m001kw8j)
Rhydian Bowen Phillips: Miwsig gorau’r bore ar Radio Cymru 2

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.


MON 09:00 Lisa Gwilym (m001kw8n)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


MON 11:00 Bore Cothi (m001kw8v)
Traddodiadau'r Pasg a phenblwydd Elinor Bennett

Cyfle arall i fwynhau sgwrs efo’r Parch. Aled Edwards am draddodiadau’r Pasg ar draws y byd.

Munud i Feddwl yng nghwmni Elen Pencwm.

Ac â hithau ar drothwy penblwydd go arbennig, bydd y delynores Elinor Bennett yn trafod ei pharti penblwydd delfrydol.


MON 13:00 Edward H. Dafis: Cyngerdd Corwen '76 (m001kw8z)
Cyngerdd Edward H Dafis ym Mhafiliwn Corwen yn 1976.

Darlledwyd yn wreiddiol fel rhan o'r rhaglen Ymbarél Dros Edward H. ym Medi 1976.


MON 14:00 Chwaraeon Radio Cymru (m001kw95)
Wrexham v Notts County

Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


MON 17:00 Post Prynhawn (m001kw99)
Alun Thomas yn cyflwyno

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gydag Alun Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


MON 17:30 Byd Iolo (m001j9n3)
Costa Rica

Iolo Williams yn ein tywys i ganol byd natur yn Costa Rica. Iolo Williams visits Costa Rica.


MON 18:00 Cofio (m001kw0c)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


MON 19:00 Rhys Mwyn (m001kw9f)
Martin 'Youth' Glover yng Ngogledd Cymru

Taith Martin 'Youth' Glover yng Ngogledd Cymru yn cynnwys nosweithiau yng Nghaergybi a Chaernarfon, a'i ymweliad a chrlomlechi Ynys Môn.

Hefyd Megan Hunter efo cerddoriaeth yr 80au a'r 90au.


MON 21:00 Caryl (m001kw9k)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



TUESDAY 11 APRIL 2023

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m001kw9p)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m001kw9r)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m001kw9w)
Rhydian Bowen Phillips: Miwsig gorau’r bore ar Radio Cymru 2

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.


TUE 09:00 Lisa Gwilym (m001kwb1)
Sarah Wynn yn cyflwyno

Eich hoff fiwsig, gyda Sarah Wynn yn cyflwyno yn lle Lisa Gwilym. Your favourite music, with Sarah Wynn sitting in for Lisa Gwilym.


TUE 11:00 Bore Cothi (m001kwb5)
Ffasiwn priodasol, Merched Plas Taf a Keith Reid

Phil Davies sy’n edrych nol ar yrfa Keith Reid, cyfansoddwr nifer o ganeuon pop poblogaidd a fu farw’n ddiweddar.

Munud i Feddwl yng nghwmni Shoned Wyn Jones.

Sgwrs gyda Caryl Ebenezer, arweinydd Merched Plas Taf sydd wedi bod yn canu o flaen y Pab yn Rhufain.

A ninnau ar drothwy tymor y priodasau, bydd Ffion Thomas yn trin a thrafod y ffasiwn priodasol diweddaraf.


TUE 13:00 Dros Ginio (m001kwb9)
Trin a thrafod Cymru a'r byd. Jennifer Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


TUE 14:00 Ifan Jones Evans (m001kwbf)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m001kwbk)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Dei Tomos (m001kw0l)
[Repeat of broadcast at 17:00 on Sunday]


TUE 19:00 Georgia Ruth (m001kwbp)
Dewis eclectig o gerddoriaeth o gasgliad Georgia Ruth, yn cynnwys cerddoriaeth ryngwladol, byd a thraciau Cymraeg arbrofol. An eclectic selection of music.


TUE 21:00 Caryl (m001kwbt)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



WEDNESDAY 12 APRIL 2023

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m001kwby)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m001kwc5)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore yng nghwmni Daniel Jenkins-Jones. Early breakfast, with Daniel Jenkins-Jones sitting in for John Hardy.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m001kwd1)
Rhydian Bowen Phillips: Miwsig gorau’r bore ar Radio Cymru 2

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.


WED 09:00 Lisa Gwilym (m001kwd8)
Sarah Wynn yn cyflwyno

Eich hoff fiwsig, gyda Sarah Wynn yn cyflwyno yn lle Lisa Gwilym. Your favourite music, with Sarah Wynn sitting in for Lisa Gwilym.


WED 11:00 Bore Cothi (m001kwck)
Ffit Cymru ac Antur Waunfawr

Y diweddaraf gan gyfranwyr ac arbenigwyr y gyfres newydd o Ffit Cymru.

Heddyr Gregory efo Munud i Feddwl.

Cipolwg ar waith ardderchog Antur Waunfawr.

Gillian Jones yn trafod llwyddiant diweddar Becws Islyn.


WED 13:00 Dros Ginio (m001kwcp)
Vaughan Roderick

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Vaughan Roderick sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


WED 14:00 Ifan Jones Evans (m001kwct)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


WED 17:00 Post Prynhawn (m001kwcz)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


WED 18:00 Y Talwrn (m001kw0q)
[Repeat of broadcast at 19:00 on Sunday]


WED 19:00 Mirain Iwerydd (m001kwd7)
Cerddoriaeth newydd Cymru. New Welsh music.


WED 21:00 Caryl (m001kwdg)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



THURSDAY 13 APRIL 2023

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m001kwdn)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m001kwdv)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore yng nghwmni Daniel Jenkins-Jones. Early breakfast, with Daniel Jenkins-Jones sitting in for John Hardy.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m001kw3w)
Rhydian Bowen Phillips: Miwsig gorau’r bore ar Radio Cymru 2

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.


THU 08:30 Sioe Frecwast: Naw o'r 90au (m001kw41)
Miwsig Gorau'r 90au!

Taith nôl i ddegawd y Spice Girls, Eden, Big Leaves ac Oasis! Take a trip back to the Nineties.


THU 09:00 Lisa Gwilym (m001kypz)
Sarah Wynn yn cyflwyno

Eich hoff fiwsig, gyda Sarah Wynn yn cyflwyno yn lle Lisa Gwilym. Your favourite music, with Sarah Wynn sitting in for Lisa Gwilym.


THU 11:00 Bore Cothi (m001kw4b)
Trysorau'r archif gyda Hywel Gwynfryn

Munud i Feddwl yng nghwmni E Wyn James.

Mwy o drysorau archif BBC Cymru yng nghwmni Hywel Gwynfryn.

Sgwrs gydag Angharad Jones o Fedwas sydd wedi dysgu Cymraeg.


THU 13:00 Dros Ginio (m001kw4g)
Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Ifan Jones Evans (m001kw4l)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


THU 17:00 Post Prynhawn (m001kw4p)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


THU 18:00 Hawl i Holi (m001kw4r)
Trafodaeth gyfoes ar bynciau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Topical discussion on local, national and international issues.


THU 19:00 Huw Stephens (m001kw4t)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd a sgwrs i gael gwybod pa ganeuon sydd wedi newid bywydau pobl. New music and some unexpected gems from the archive.


THU 21:00 Caryl (m001kw4x)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



FRIDAY 14 APRIL 2023

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m001kw56)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r BBC World Service dros nos. Radio Cymru joins the BBC World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m001kw5d)
Daniel Jenkins-Jones yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore yng nghwmni Daniel Jenkins-Jones. Early breakfast, with Daniel Jenkins-Jones sitting in for John Hardy.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m001kwhj)
Lisa Angharad: Miwsig gorau’r bore ar Radio Cymru 2

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m001kwgp)
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford. Music and entertainment with Trystan Ellis-Morris and Emma Walford.


FRI 11:00 Dom James (m001kwhl)
Dom James yn chwarae eich hoff fiwsig. Dom James plays your favourite music.


FRI 13:00 Dros Ginio (m001kwgt)
Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Tudur Owen (m001kwgw)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m001kwgy)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


FRI 18:00 Lauren Moore (m001kwh0)
Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Lauren Moore. Friday night music with Lauren Moore.


FRI 21:00 Nos Wener Ffion Emyr (m001kwh2)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda thair awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.