SATURDAY 25 FEBRUARY 2023

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m001j9xr)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m001j9xw)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m001jjr7)
Daniel Glyn

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Daniel Glyn. Music and entertainment breakfast show with Daniel Glyn.


SAT 09:00 Tudur Owen (m001jjkp)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m001jjkr)
Mali Haf yn dewis Traciau Codi Calon

Mali Haf sydd yn westai Traciau Codi Calon ac wrth gwrs Trystan Ap Owen sy'n dal dwylo'r pâr trwy benawdau ysgafn yr wythnos.


SAT 14:00 Chwaraeon Radio Cymru (m001jjkt)
Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


SAT 16:30 Chwaraeon Radio Cymru (m001jjkw)
Cymru v Lloegr

Sylwebaeth ar gêm Cymru v Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023. Wales v England in the Six Nations Championship.


SAT 19:00 Marc Griffiths (m001jjky)
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Ffion Emyr (m001jjl0)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 26 FEBRUARY 2023

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m001jjl2)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m001jjl4)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m001jjsd)
Mirain Iwerydd

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Mirain Iwerydd. Music and entertainment breakfast show with Mirain Iwerydd.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m001jjj0)
Elin Manahan Thomas

Y soprano Elin Manahan Thomas yn cyflwyno cerddoriaeth ar gyfer bore Sul. Elin Manahan Thomas presents music for Sunday morning.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m001jjj2)
Oedfa ar Sul cyntaf y Grawys dan arweiniad darpar esgob LLandaf, Mary Stallard

Oedfa ar Sul cyntaf y Grawys dan arweiniad esgob cynorthwyol Bangor a darpar esgob Llandaf, Mary Stallard.

Mae'n trafod Grawys fel cyfnod o adnewyddu ffydd a bywyd y Cristion gan gymryd esiampl Crist yn darostwng ei hun a chymryd arno agwedd gwas fel sail i'r adnewyddiad. Rhoir sylw arbennig i gaethwasanaeth fodern gan dynnu ar brofiadau o ymweld â Ghana a gweld adeiladau ddefnyddiwyd i garcharu pobl oedd ar fin cael eu gwerthu yn gaethion yn y 18ed a'r 19eg Ganrif.

Ceir darlleniadau o Salm 139 a Philipiaid 2.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m001jjj4)
Pa mor onest all gwleidydd fod? Gwaith DEC yn Twrci a Syria.

John Roberts yn trafod pa mor onest all gwleidydd fod yn sgil yr ymateb i ddatganiad Kate Forbes am ei ffydd gyda Bethan Jones Parry a Guto Harri.

Trafod gwaith DEC yn Nhwrci a Syria gyda Cynan Llwyd, yr elusen Tearfund, a dechrau Grawys a mis ymwybyddiaeth LGBTQ+ gyda Sion Rhys Evans.


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m001f4mh)
Meleri Davies

"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George.

Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi’r hynaf sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy’n byw yn Sir Fôn sy’n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy’n ffermio adref, fo ydi’r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno.

Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain.

Dechreuodd Partneriaeth Ogwen yn 2014 drwy gael 3 cyngor cymuned yn gweithio efo’i gilydd, sef Llanllechid, Llandegai a Bethesda. Daeth y tri at ei gilydd i gyflogi un clerc yn hytrach na tri ac yna defnyddio yr arbed i gyflogi Meleri i ddatblygu prosiectau.

Dechreuwyd y bartneriaeth efo Meleri’n gweithio 2 ddiwrnod yn unig a clerc am ddau ddiwrnod. Bellach cyflogir 23 o bobl, rhai yn rhan amser ac eraill yn llawn amser. Mae Meleri’n gweithio’n llawn amser ers sawl blwyddyn bellach ac yn magu 3 o blant gyda'i gwr Meirion.

Cawn hanesion ei bywyd o Trawsfynydd i Nepal, ac mae hi'n dewis ambell i gân - gan gynnwys caneuon gan Lleuwen Steffan a Gruff Rhys.


SUN 14:00 Cofio (m001jjj8)
Adar

Adar sy’n mynd â sylw John Hardy heddiw.

David Watkins sy'n adrodd hanes yr aderyn bach sy'n dweud fod y gwanwyn wedi cyrraedd - y dryw melyn (chiff chaff). Ac ma'r gwcw yn un arall sy'n ymddangos yn y gwanwyn a chyfle i glywed clip arbennig o 1949 yng nghwmni'r Dr Stephen J Williams a Hilda Bassett.

Hywel Teifi Edwards sy'n rhannu hanes difyr Adar Treffynnon, sef dwy chwaer o'r enw Kate Wynne ac Edith Wynne a oedd yn gantorion o fri yn y ddeunawfed ganrif.

Mae yna lawer o ddywediadau yn defnyddio adar, ee cyw melyn olaf neu adael y nyth, ond mi roedd Olwen Samuel yn sôn am agwedd arall o ddefnyddio enwau adar ar ferched.

Y naturiaethwr Ted Breeze Jones yn sôn am y frân goesgoch, sy'n aderyn reit brin gyda chysylltiad agos â Chernyw a chwedl am y Brenin Arthur.

Yn 1986 bu'r rhaglen Garddio yn recordio ar leoliad yn Llandrillo a'r cwestiwn a ofynnwyd i’r arbenigwyr yw os dylid croesawu adar i'r ardd gan fod rhai ohonynt yn dinistrio gwaith da y garddwr!

T Gwynn Jones o Dregarth ar daith i'r Alban yn cael modd i fyw wedi iddo weld brenin yr adar, yr Eryr!

Cyfres gomedi boblogaidd yn y 70au oedd "Fo a Fe" gyda Guto Roberts a Ryan Davies, a helynt Sali'r Golomen oedd yn corddi'r ddau.

Draw yn Nyffryn Conwy, mae Wili John yr hwyaden wedi dod mewn i fywyd Emrys a Wyn Wynne o Dalybont.

Cawn glywed hanes y bardd coronog, Eluned Phillips, yn trafod y tro cynta iddi gwrdd â'r gantores enwog o Ffrainc, Edith Piaf (Little Sparrow).

Ac yn olaf, Harold Rees a oedd yn byw mewn carafan ym Mhontarddulais, yn sôn wrth T Glynne Davies am yr holl adar yr oedd wedi bwyta. Roedd yr aderyn du yn flasus meddai!


SUN 15:00 Hywel Gwynfryn (m001jjjd)
Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m001jjhw)
Gwladgarwch

R. Alun Evans yn cyflwyno emynau ar y thema Gŵyl Dewi. R. Alun Evans introduces hymns on the theme of St. David.


SUN 17:00 Stori Tic Toc (m0000cw9)
Cynffon

Dona Direidi sy'n adrodd y stori hon am Jona yn eistedd yn y bath, ac wrth ei fodd yn gweld am y tro cyntaf fod ganddo gynffon pysgodyn.


SUN 17:05 Dei Tomos (m001jjjj)
Dylanwad Cymru ar Iwcrain

Flwyddyn ers i Rwsia ymosod ar Iwcrain mae Dei yn cael cwmni yr hanesydd Bob Morris sydd yn trafod hanes Iwcrain a dylanwad dau Gymro ar y wlad honno.

Bethany Celyn yw Golygydd Creadigol newydd Barddas ac mae hi'n olrhain ei diddordeb yng ngwaith a bywyd Gwerful Mechain.

Hanes ei nain yn arwain Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn 1923 yw pwnc Meg Elis tra bod Mared Rand Jones, Prif Weithredwr newydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, yn sgwrsio am gerdd sydd wedi dylanwadu arni.


SUN 18:30 Byd Iolo (m001jjjn)
Y baedd gwyllt

Mae Iolo Williams yn ôl yng Nghymru yr wythnos hon, ac ar drywydd y baedd gwyllt. Iolo Williams explores the wonder and whimsy of the natural world.


SUN 19:00 Y Talwrn (m001jjjs)
Tanau Tawe v Y Cwps

Dau dîm o feirdd yn cystadlu i gyrraedd y rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol 2023. Two teams of bards compete to win a place in the final at the National Eisteddfod.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m001jjjx)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m001jjk1)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 27 FEBRUARY 2023

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m001jjk5)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m001jjk7)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m001jjt9)
Rhydian Bowen Phillips

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.


MON 09:00 Lisa Gwilym (m001jjth)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


MON 11:00 Miwsig y Siarter Iaith (m001jjtt)
Rhestr Gŵyl Dewi

Awr o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg i gyd-fynd â'r Siarter Iaith. Yn wrando perffaith adref, mewn clybiau a chymdeithasau, aelwydydd ac ysgolion. An hour of Welsh contemporary music.


MON 12:00 Bore Cothi (m001jjv4)
Handel, Cadw'n Heini a Tenovus yn 80 oed.

Glenda Gardiner efo Munud i Feddwl.

George Frideric Handel yw Cyfansoddwr y Mis, a Geraint Lewis sy'n trafod ei fywyd a'i yrfa.

Elin Wyn Williams sy'n sgwrsio am gadw'n heini.

Elin Wyn Murphy yn tafod gwaith yr elusen Tevovus sy'n dathlu 80 mlynedd eleni.


MON 13:00 Dros Ginio (m001jjvb)
Cennydd Davies

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Cennydd Davies sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


MON 14:00 Ifan Jones Evans (m001jjvn)
Sarah Wynn o'r grŵp Celavi yn westai

Sarah Wynn o'r grŵp Celavi sy'n sgwrsio gydag Ifan Jones Evans am y gân Dyma Fi, sy'n Drac yr Wythnos.

Gareth Parry o Ynys Môn yn sôn am yr hwb rygbi, Môn Stars.

A'r cwisfeistr rygbi, Matthew Jones sy'n herio Ifan gyda chwestiynau treiddgar am y gêm.


MON 17:00 Post Prynhawn (m001jjw1)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


MON 18:00 Troi'r Tir (m001jjht)
Dylanwadau cerddorol Rhydian Meilir

Rhydian Meilir Pughe, y mab fferm o’r Canolbarth, ac enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru llynedd, sy'n sôn am ddylanwad cefn gwlad ar ei ganeuon.

Yr hanesydd bwyd Carwyn Graves, sy'n sôn am yr ymgyrch i weld bwydydd hollol Gymreig ar fwydlenni ein bwytai ni.

Sgwrs gyda Martyn Owen o Ynys Môn, enillydd Gwobr Goffa Brynle Williams yng Ngwobrau Lantra Cymru eleni.

Y diweddara o’r martiau anifeiliaid gyda Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru, a’r ffermwr defaid a gwartheg duon, Arfon Williams o Gwmtirmynach ger y Bala sy’n adolygu rhai o'r straeon gwledig yn y wasg yr wythnos hon.


MON 18:30 Byd Iolo (m001jjjn)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


MON 19:00 Rhys Mwyn (m001jjwl)
Caneuon am fwyd/coginio

Y cogydd Chris Roberts a chaneuon am fwyd a choginio wedi eu dewis gan gymuned Nos Lun.


MON 19:45 Chwaraeon Radio Cymru (m001jjx1)
Abertawe v Rotherham

Sylwebaeth fyw o gêm Abertawe v Rotherham yn y Bencampwriaeth. Live commentary from Swansea City v Rotherham Utd in the Championship.


MON 22:00 Caryl (m001jjxg)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



TUESDAY 28 FEBRUARY 2023

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m001jjxw)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m001jjy7)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m001jjy8)
Rhydian Bowen Phillips

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.


TUE 09:00 Lisa Gwilym (m001jjyp)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


TUE 11:00 Bore Cothi (m001jjz8)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


TUE 13:00 Dros Ginio (m001jjzl)
Jennifer Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Jennifer Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


TUE 14:00 Ifan Jones Evans (m001jjzt)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m001jjzy)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m001jk02)
Hanna Hopwood a'i gwesteion sy'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws. Hanna Hopwood and her guests discuss things that can make life easier.


TUE 18:30 Meistr y Miwsig (m001jk06)
Pwy fydd Meistr y Miwsig 2023? Dai Williams sy’n cyflwyno cwis cerddoriaeth Radio Cymru. Think you know your music? Dai Williams presents Radio Cymru’s music quiz.


TUE 19:00 Georgia Ruth (m001jk0b)
Dewis eclectig o gerddoriaeth o gasgliad Georgia Ruth, yn cynnwys cerddoriaeth ryngwladol, byd a thraciau Cymraeg arbrofol. An eclectic selection of music.


TUE 21:00 Caryl (m001jk0g)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



WEDNESDAY 01 MARCH 2023

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m001jk0k)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m001jk0m)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m001jjsf)
Rhydian Bowen Phillips

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.


WED 09:00 Lisa Gwilym (m001jjsh)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


WED 11:00 Bore Cothi (m001jjsl)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


WED 13:00 Dros Ginio (m001jjsp)
Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


WED 14:00 Ifan Jones Evans (m001jjsr)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


WED 17:00 Post Prynhawn (m001jjst)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


WED 18:00 Perthyn (m000pdn4)
Jac

Perthyn i le a pherthyn i’w gilydd, ond mae rhwygiadau personol ynghyd â gwrthdaro gwleidyddol yn bygwth mwy nag un perthynas wrth i Jac Parri frwydro i sicrhau dyfodol ei gwmni adeiladu a chynnig bywyd gwell i’w ddwy ferch, Buddug a Lois.

Cast:
Jac: Llion Williams
Leri: Ffion Dafis
Buddug: Rhian Blythe
Huw: Sion Pritchard
Lois: Manon Wilkinson
Dylan: Meilir ap Emrys


WED 18:30 Perthyn (m000pll5)
Huw

Perthyn i le a pherthyn i’w gilydd, ond mae rhwygiadau personol ynghyd â gwrthdaro gwleidyddol yn bygwth mwy nag un perthynas wrth i Jac Parri frwydro i sicrhau dyfodol ei gwmni adeiladu a chynnig bywyd gwell i’w ddwy ferch, Buddug a Lois.

Yn yr ail bennod o Perthyn, mae Huw yn ceisio dod i delerau gyda phenderfyniad Jac a dychweliad Lois i'r teulu.

Cast:
Jac: Llion Williams
Leri: Ffion Dafis
Buddug: Rhian Blythe
Huw: Sion Pritchard
Lois: Manon Wilkinson
Dylan: Meilir ap Emrys


WED 19:00 Y Gerddorfa (m001jjsw)
Chwedlau Cymru - Ddoe a Heddiw

Yn fyw o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'i harweinydd Jac van Steen i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chyngerdd yn seiliedig ar Chwedlau Cymru.

Mae Corws y BBC hefyd yn ymuno, gyda'r gerddoriaeth yn cynnwys gwaith gan Gareth Glyn, Grace Williams, Arwel Hughes, a threfniant Jeffrey Howard o'n hanthem genedlaethol.


WED 21:15 Caryl (m001jjsy)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



THURSDAY 02 MARCH 2023

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m001jjt0)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m001jjt2)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m001jl0r)
Rhydian Bowen Phillips

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Rhydian Bowen Phillips. Music and entertainment breakfast show with Rhydian Bowen Phillips.


THU 09:00 Lisa Gwilym (m001jl15)
Lisa Gwilym yn chwarae eich hoff fiwsig. Lisa Gwilym plays your favourite music.


THU 10:30 Lisa Gwilym: Traciau Newydd Radio Cymru 2 (m001jtz3)
Caneuon Cymraeg Newydd

Rhestr chwarae o'r gerddoriaeth Gymraeg newydd orau ar gyfer eich clustiau! A playlist of the best new Welsh music.


THU 11:00 Bore Cothi (m001jl0v)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


THU 13:00 Dros Ginio (m001jl16)
Catrin Haf Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Ifan Jones Evans (m001jl1f)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


THU 17:00 Post Prynhawn (m001jl1n)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


THU 18:00 Hawl i Holi (m001jl1v)
Trafodaeth gyfoes ar bynciau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Topical discussion on local, national and international issues.


THU 19:00 Huw Stephens (m001jl22)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd a sgwrs i gael gwybod pa ganeuon sydd wedi newid bywydau pobl. New music and some unexpected gems from the archive.


THU 21:00 Caryl (m001jl27)
Cerddoriaeth a hwyl gyda'r hwyr gyda Caryl Parry Jones. Music and fun with Caryl Parry Jones.



FRIDAY 03 MARCH 2023

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m001jl2d)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m001jl2j)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m001jljr)
Geraint Hardy

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Geraint Hardy. Music and entertainment breakfast show with Geraint Hardy.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m001jl5z)
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford. Music and entertainment with Trystan Ellis-Morris and Emma Walford.


FRI 11:00 Dom James (m001jljt)
Dom James yn chwarae eich hoff fiwsig. Dom James plays your favourite music.


FRI 13:00 Dros Ginio (m001jl67)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Tudur Owen (m001jl6c)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m001jl6g)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


FRI 18:00 Lauren Moore (m001jl6m)
Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Lauren Moore. Friday night music with Lauren Moore.


FRI 21:00 Nos Wener Ffion Emyr (m001jl6v)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda tair awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.