The BBC has announced that it has a sustainable plan for the future of the BBC Singers, in association with The VOCES8 Foundation.
The threat to reduce the staff of the three English orchestras by 20% has not been lifted, but it is being reconsidered.
See the BBC press release here.

Radio-Lists Home Now on RC2 Contact

RADIO-LISTS: BBC RADIO CYMRU 2
Unofficial Weekly Listings for BBC Radio Cymru 2 — supported by bbc.co.uk/programmes/



SATURDAY 09 OCTOBER 2021

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m00109jt)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m00109jw)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m0010g5l)
Daniel Glyn

Yr actor Sion Pritchard fydd yn ateb cwestiynau diog Daniel Glyn. Trac o ffilm a trac techno'r wythnos, a llawer mwy.


SAT 09:00 Tudur Owen (m0010fjb)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Uffern Iaith y Nefoedd (m0010fjd)
Sioe banel hwyliog dan ofal y ieith-gi Gruffudd Owen sy'n arwain y timau drwy gyfres o heriau a chwestiynau ieithyddol gyda’r bwriad o ennyn chwerthin a hwyl! Y capteiniaid yw Mari Beard a Richard Elis ac yn ymuno â nhw yr wythnos yma mae Llwyd Owen a Melanie Owen.


SAT 11:30 Y Sioe Sadwrn (m0010fjg)
Caneuon Codi Calon Celyn Cartwright

Y gantores Celyn Cartwright yn dewis Caneuon Codi Calon.

Shân Cothi a'i chi fydd yn cymryd rhan yng nghynghrair y Cwn.

Straeon y we gan Trystan ab Owen a sylwebaethau'r wythnos gan Heledd Anna.


SAT 14:00 Chwaraeon Radio Cymru (m0010fjj)
Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


SAT 17:30 Marc Griffiths (m0010fjl)
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Gaynor (m0010fjn)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Gaynor Davies. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 10 OCTOBER 2021

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m0010fjq)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m0010fjs)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m0010g41)
Mirain Iwerydd

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Mirain Iwerydd. Music and entertainment breakfast show with Mirain iwerydd.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m0010fcw)
Gwawr Edwards

Detholiad o gerddoriaeth amrywiol yng nghwmni'r gantores Gwawr Edwards. Singer Gwawr Edwards presents a variety of music.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m0010fcy)
Richard Cleaves, Pen y Bont ar Ogwr

Richard Cleaves yn arwain oedfa yn trafod y greadigaeth. Ceir pwyslais ar ryfeddod y cread, mawredd y cread a'n cyfrifoldeb i ofalu am y cread. Darllenir o Salm 19 gan Felicity Cleaves ac hefyd o lyfr Job.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m0010fd0)
John Roberts yn cyflwyno

John Roberts yn trafod:

Penderfyniad llywodraeth San Steffan i dorri'r credyd cynhwysol £20 yr wythnos gyda Sarah Roberts a Nicholas Bee;

Dydd Iechyd Meddwl y Byd gan ganolbwyntio ar ddylanwad Cyfryngau Cymdeithasol ar bobl ifanc gyda Bethan Sayed a Carwyn Graves;

Cofio 150 ers ffurfio Uned yr Annibynwyr gyda Prys Morgan;

A Pryderi Llwyd Jones yn adolygu dwy gyfrol o waith y diweddar Elfed Nefydd Roberts


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m0010fd2)
Grant Peisley

Grant Peisley sydd yn sgwrsio gyda Beti George, dyn o Awstralia sydd wedi setlo yn ardal Caernarfon ac yn gwneud llawer o waith gydag ynni cymunedol ac yn sefydlwr cwmnïau megis YnNi Teg a Datblygiadau Egni Gwledig (DEG).


SUN 14:00 Cofio (m0010fd4)
Ieithoedd

Mae'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ac mae John Hardy yn mynd ar drywydd wahanol Ieithoedd y byd. Cawn glywed beth yw hoff eiriau rhai o wrandawyr Cofio yn yr iaith Gymraeg.

Dilys Williams, sef chwaer Waldo Williams, yn esbonio wrth James Thomas mae Saesneg oedd iaith yr aelwyd.

Mi ddechreuodd Cetra Coverdale Pearson ddysgu Cymraeg wedi iddi ddod ar wyliau yng Nghymru a chlywed yr iaith yn cael ei siarad. Mi aeth ati i gael gwersi ac mae bellach yn rhugl o fewn blwyddyn! Mae hyd yn oed yn blogio yn y Gymraeg!

Ieithoedd tramor oedd yn mynd a bryd Valmai Evans a Paul Barrett, ond pwysigrwydd gwrando a phwysigrwydd yr iaith lafar oedd gwers yr Athro Bedwyr Lewis Jones i ni gyd.

Bethan Gwanas yn sgwrsio gyda Begotxu Olaizola, athrawes mewn ysgol Fasgeg yn Oreo, am agweddau tuag at yr iaith Fasgeg.

Briallt Wyn o Orsgoch ger Llambed yn rhoi gwersi arwyddo ar y we a Digby Bevan yn sôn am bwysigrwydd dechrau siarad a defnyddio iaith wedi ichi ei dysgu.

Profiad rhai o’r menywod a dreuliodd amser yn y carchar wrth frwydro i gael hawliau i’r Gymraeg - y profiad o fynd i’r carchar am y tro cyntaf - Gwyneth Hunkin, Mari Wyn, Marged Tomos, Angharad Tomos a Meinir Ffransis.


SUN 15:00 Hywel Gwynfryn (m0010fd6)
Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m0010fcr)
Hanes emyn-donau 1

Elen Ifan yn edrych ar hanes rhai o'n hemyn-donau. Congregational singing.


SUN 17:00 Stori Tic Toc (m000r41n)
Siwsi y Seren Wib

Dewch i wrando ar stori am Siwsi y seren wîb, y seren fwyaf disglair yn y gofod i gyd. A story for young listeners.


SUN 17:05 Dei Tomos (m0010fd8)
Sefydlu Geiriadur Prifysgol Cymru

Yn gwmni i Dei i ddathlu canmlwyddiant sefydlu Geiriadur Prifysgol Cymru mae Andrew Hawke, Mary Williams ac Angharad Fychan.

Mae Ifan Morgan Jones yn sgwrsio am ei nofel 'Brodorion' ac am sefydlu gwefan Nation.Cymru tra bod Daniel Williams yn trafod canmlwyddiant geni'r awdur Eingl Gymreig Raymond Williams.

I gloi mae Anni Llŷn yn mynd a ni drwy ei chyfrol newydd o farddoniaeth 'Rhwng Gwlân a Gwe'.


SUN 18:30 Motor Niwron: Siwrna Sioned (m0010fdb)
Mae person sy’n cael diagnosis clefyd Motor Niwron, neu MND yn debygol o farw o fewn 5 mlynedd o’r diagnosis, a 10 % o’r bobol hynny yn byw 10 mlynedd neu fwy.

Mae Sioned Roberts-Jones o Lanrug yn un o’r bobol hynny. Yn wraig, yn fam, yn nain, yn ysbrydoliaeth lwyr, mae Sioned yn rhoi gobaith fod modd byw gyda chlefyd sy’n lladd.

Mis Hydref yma, mae’n 15 mlynedd ers ei diagnosis. Aled Hughes sy'n cyflwyno Siwrna Sioned gyda Caryl Williams ei merch, Dylan Roberts ei brawd a'r arbenigwr Dr Rhys Davies.


SUN 19:00 Ambell i Gân (m0010fdd)
Gwenan Gibbard sy'n cyflwyno cyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth werin Cymru. Gwennan Gibbard reflects on the richness and variety of Welsh folk music.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m0010fdg)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m0010fdj)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 11 OCTOBER 2021

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m0010fdl)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m0010fdn)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m0010glh)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


MON 09:00 Aled Hughes (m0010g67)
Perthynas Iach efo'r Drych

Vikki Alexander yn sgwrsio am addysg Gymraeg trwy’r Mudiad Meithrin a hithau'n wythnos 'Dathlu Dysgu Cymraeg';

Sion Aled Owen yw Bardd Mis Hydref Radio Cymru;

Llŷr Temple Morris yn sgwrsio am 'British Columbia' ac ymladd tanau gwyllt;

a'r seicotherapydd Sioned Lewis fydd yn trafod beth sy’n berthynas iach efo drych?


MON 11:00 Bore Cothi (m0010g69)
Melangell Dolma a Rhiannon Oliver yn sôn am brosiect Enfys ar gyfer Dysgwyr Cymraeg.

Eleri Twynog yn sôn am Ŵyl Hanes i Blant.

Alun Tudur sydd yn rhoi Munud i Feddwl i ni.


MON 12:30 Cystadleu-iaith (m0010g6c)
Cystadleu-iaith

Noel James sy’n cwrdd â dysgwyr o Gymru a thu hwnt mewn cwis newydd sbon i bobl sy’n dysgu’r iaith.

Yn y rhaglen hon, dysgwyr o Sir Benfro, Sir Gâr a Chaerdydd sy'n cystadlu am le yn y ffeinal.


MON 13:00 Dros Ginio (m0010g6g)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


MON 14:00 Ifan Evans (m0010g6j)
Sioned a DJ o Gwmderi yn westeion

Emily Tucker a Carwyn Glyn sy'n ymuno ag Ifan i sôn am stori Sioned a DJ yn Pobol y Cwm.

A gan ei bod hi'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru, am dri o'r gloch mae 'na gyfle i griw sydd wrthi'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd gymryd yr awenau a dewis y gerddoriaeth.

Heddiw tro Alison, Karen, Claire, Andy a Natalie yw hi, ac mae nhw'n dysgu Cymraeg gyda Say Something in Welsh.


MON 17:00 Post Prynhawn (m0010g6l)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


MON 18:00 Troi'r Tir (m0010fcp)
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, sgwrs gydag un ffermwr sydd wedi profi problemau iechyd meddwl, ac mae cyngor yma hefyd i eraill sydd angen cymorth ar hyn o bryd.

Beccy Phasey o Gellilydan sy'n sôn am ddefnyddio lledr wedi’i ail-gylchu er mwyn creu bagiau unigryw.

Hanes Tudur Evans o Sir Drefaldwyn sy'n rhan o’r Academi Amaeth eleni, a'r Hybarch Eileen Davies, sylfaenydd elusen cefn gwlad Tir Dewi sy'n adolygu’r straeon amaethyddol yn y wasg.


MON 18:30 Cymry Newydd y Cyfnod Clo (m0010g6n)
Dysgwyr Dros y Byd

Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:

BEN OWEN-JONES
Cafodd Ben ei fagu yn Portsmouth a bu’n actio yn y ddrama Grange Hill pan oedd yn 11 oed. Wedi torri ei gefn mewn damwain, symudodd i Gymru yn 1996 i ddilyn cwrs coleg yng Nghasnewydd, lle mae e hefyd wedi bod yn ddarlithydd celf. Mae wedi dechrau dysgu Cymraeg ar-lein gan gadw dyddiadur sain o’i ymdrechion.

OLIVER LLEWELLYN
O Swydd Efrog yn wreiddiol mae Oliver newydd ddechrau dysgu disgyblion wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers y pandemig. Ar ôl symud i Maryland yn yr Unol Daleithiau penderfynodd ddysgu Cymraeg gan fod ei dad-cu yn dod o Bort Talbot. Er nad oes llawer o gyfle i siarad Cymraeg yno, mae’n cyfrannu ar lein drwy gymdeithas Washington Welsh ac yn cynnal sesiynau sgwrsio Duolingo.

MOHINI GUPTA
Mae’r bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, yn gwneud gwaith ymchwil ym mhrifysgol Rhydychen ac ers Medi 2020 mae wedi ail gydio yn ei Chymraeg. Treuliodd dri mis yn Aberystwyth yn 2017 o dan nawdd Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Sefydliad Mercator. Mae wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac yn gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol.

JAMIE DUFFIELD
Jamie Duffield yw prif fragwr cwmni Wild Weather Ales yn Reading. Gan fod y bragdy ar gau ar ddechrau’r Cyfnod Clo roedd yn rhaid iddo addasu’r gwaith o gynhyrchu casgenni i werthu cwrw mewn caniau a dyfeisio cwrw newydd. Roedd teithio am awr bob ffordd bob dydd yn y car yn gyfle iddo ddysgu Cymraeg. Mae’n teimlo ei fod yn ail-gysylltu â’i wreiddiau gan fod teulu ei dad yn dod o ogledd Cymru.


MON 19:00 Chwaraeon Radio Cymru (m0010g6r)
Estonia v Cymru

Sylwebaeth ar gêm bêl-droed Estonia v Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Qatar 2022. Commentary on Estonia v Wales.


MON 22:00 Geraint Lloyd (m0010g6t)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



TUESDAY 12 OCTOBER 2021

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m0010g6w)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m0010g6y)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m0010gsx)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


TUE 09:00 Aled Hughes (m0010gqn)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


TUE 11:00 Bore Cothi (m0010gqq)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


TUE 12:30 Cystadleu-iaith (m0010gqs)
Noel James sy’n cwrdd â dysgwyr o Gymru a thu hwnt mewn cwis newydd sbon i bobl sy’n dysgu’r iaith. Yn y rhaglen hon, dysgwyr o Gaerdydd, San Francisco a Chilgwri sy'n cystadlu am le yn y ffeinal.


TUE 13:00 Dros Ginio (m0010gqv)
Jennifer Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Jennifer Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


TUE 14:00 Ifan Evans (m0010gqx)
Winnie James yn Rhoi'r Byd yn ei Le

Winnie James o Grymych yw gwestai Ifan heddiw, ac yn rhoi'r byd yn ei le.

A gan ei bod hi'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru, am dri o'r gloch mae 'na gyfle i griw sydd wrthi'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd gymryd yr awenau a dewis y gerddoriaeth.

Heddiw tro Claire, Chloe, Kelly, Jessica, Jenna, Erena, Glenn, Sarah, Claire (arall!), Christian, Sian, Lisa, Emma, Liz, a David yw hi.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m0010gqz)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m0010gr1)
Hanna Hopwood a'i gwesteion sy'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws. Hanna Hopwood and her guests discuss things that can make life easier.


TUE 18:30 Cymry Newydd y Cyfnod Clo (m0010gr3)
Dysgu Dan Glo

Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:

PHILIP MAC A’ GHOILL
Yn ystod y Cyfnod Clo cafodd Philip Mac a’ Ghoill ei benodi yn Swyddog Cynllunio’r iaith Wyddeleg yn Gaeltacht Donegal Iwerddon. Roedd newydd orffen ei ddoethuriaeth ym mhrifysgol Dulyn ac wedi dechrau dysgu Cymraeg ar ôl dod ar draws yr iaith gyntaf mewn cynhadledd i’r ieithoedd Celtaidd yng Nghaeredin yn 2019. Roedd wedi trefnu tocynnau a gwesty i ymweld â Chymru’r llynedd ond mae’n dal i ddisgwyl ei gyfle.

JEN BAILEY
Mae Jen Bailey yn arweinydd côr a cherddorfa sy’n dod o Awstralia yn wreiddiol ond wedi byw mewn amryw o wledydd cyn symud i ardal Utrecht yn yr Iseldiroedd gyda’i gŵr a’i merch. Yn ystod y Cyfnod Clo penderfynodd ychwanegu’r Gymraeg at yr wyth iaith y mae’n eu siarad yn rhugl.
Mae’r Gymraeg “wedi agor y byd” iddi, meddai, wrth iddi wneud ffrindiau newydd ar lein. “Mae byd dysgwyr Cymraeg yn fyd anhygoel a chyffrous iawn,” meddai.

NEIL PYPER
Gwyliau teuluol yn ardal Aberystwyth yn 2019 oedd y sbardun i Neil Pyper ddysgu Cymraeg. Bellach mae’r darlithydd economeg yng Ngholeg Birkbeck yn Llundain yn rhugl yn yr iaith ac wrth ei fodd â’r diwylliant, llenyddiaeth a barddoniaeth. “Roedd yn syrpreis mawr i mi fod llawer o bobol yn Lloegr sy’n siarad Cymraeg a chymuned o siaradwyr Cymraeg dros Loegr.”
Drwy ddysgu’r iaith cafodd gyfle i ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg ar-lein, darllen nofelau Manon Steffan Ros a barddoniaeth Mererid Hopwood. “Mae yna ran o Gymru dw i wedi darganfod ers dechrau dysgu Cymraeg. Oni’n meddwl mod i’n nabod Cymru yn dda iawn ac roedd yn arbennig iawn i mi ddarganfod another side.”


TUE 19:00 Georgia Ruth (m0010gr5)
Dewis eclectig o gerddoriaeth o gasgliad Georgia Ruth, yn cynnwys cerddoriaeth ryngwladol, byd a thraciau Cymraeg arbrofol. An eclectic selection of music.


TUE 21:00 Dei Tomos (m0010gr7)
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant, mewn fersiwn fyrrach o raglen nos Sul. A shortened edition of Dei's Sunday evening programme.


TUE 22:00 Geraint Lloyd (m0010gr9)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



WEDNESDAY 13 OCTOBER 2021

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m0010grc)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m0010grf)
Llŷr Griffiths-Davies yn cyflwyno

Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m0010h32)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


WED 09:00 Aled Hughes (m0010gz5)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


WED 11:00 Bore Cothi (m0010gz9)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


WED 12:30 Cystadleu-iaith (m0010gzd)
Noel James sy’n cwrdd â dysgwyr o Gymru a thu hwnt mewn cwis newydd sbon i bobl sy’n dysgu’r iaith. Yn y rhaglen hon mae'r dysgwyr yn hannu o Fwcle yn Sir y Fflint, Llantwit Faerdref ger Pontypridd, Gogledd Iwerddon a Dudley,yng nghanolbarth Lloegr.


WED 13:00 Dros Ginio (m0010gzg)
Vaughan Roderick

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Vaughan Roderick sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


WED 14:00 Ifan Evans (m0010gzj)
Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

Gan ei bod hi'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru, am dri o'r gloch mae 'na gyfle i griw sydd wrthi'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd gymryd yr awenau a dewis y gerddoriaeth.

Heddiw tro Angharad, Gareth, Jess a Jayne yw hi.


WED 17:00 Post Prynhawn (m0010gzl)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


WED 18:00 Motor Niwron: Siwrna Sioned (m0010fdb)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


WED 18:30 Cymry Newydd y Cyfnod Clo (m0010gzn)
Adfywio Iaith yr Aelwyd

Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:

NEIL WYN JONES A’I FAM OLWEN ROOSE JONES
Mae Neil Wyn Jones yn saer coed o Gilgwri ac yn diwtor Cymraeg yng Ngholeg Cambria, Wrecsam. Cafodd ei fagu yn Wallasey ar Lannau Mersi ac mae ei fam, Olwen Roose Jones yn trafod ei fagwraeth a chysylltiad teuluol gyda Saunders Lewis. Mae’r ddau yn trafod eu hymdrech i adfywio’r Gymraeg ar yr aelwyd ers i Neil ail ddysgu iaith ei deulu.

JUDI DAVIES A’I MERCH BETHAN OWEN
Symudodd Judi Davies i Gymru i astudio i fod yn athrawes yng Ngholeg Caerllion. Priododd ei gŵr o Aberdâr a magu dau o blant. Cwympodd mewn cariad â’r Gymraeg a phenderfynodd ddysgu’r iaith ar ôl helpu ei merched yn eu harholiadau TGAU a lefel A yn Ysgol y Merched Aberdâr. Ar ôl ymddeol yn gynnar ymunodd â chwrs Cymraeg lleol a bellach mae’n rhugl ac yn sicrhau bod ei hwyres, Caru, yn un o siaradwyr newydd y Gymraeg a bod yr iaith yn parhau gyda’r genhedlaeth nesaf.

SIÂN HARKIN
Cafodd Siân Harkin ei magu ym mhentre’ Glynrhedynog yn y Rhondda ac er iddi fynd i’r capel Cymraeg, Saesneg oedd iaith yr aelwyd. “Pan o’n i’n tyfu lan o’n i’n hollol ymwybodol bod cymuned Gymraeg yn bodoli yno ond do’n i ddim yn gallu ymuno mewn gyda nhw … Ac roedd fy mrawd a fi yn arfer siarad am oriau hir weithiau am y golled. A pan ges i fy mhlant i ro’n i’n teimlo’n gryf nad o’n i am gyfrannu at ddirywiad y Gymraeg drwy fagu plant di-Gymraeg fy hunan.” Cafodd ei phlant addysg yn ysgolion Cymraeg ardal Pontypridd ac ar ôl geni ei hŵyr cyntaf, penderfynodd ddysgu Cymraeg gan sicrhau bod cenhedlaeth nesaf ei theulu yn parhau i gadw’r iaith yn fyw.


WED 19:00 Lisa Gwilym yn Cyflwyno... (m0010gzq)
Cerddoriaeth newydd Cymru. New Welsh music.


WED 21:00 Cofio (m0010fd4)
[Repeat of broadcast at 14:00 on Sunday]


WED 22:00 Geraint Lloyd (m0010gzv)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



THURSDAY 14 OCTOBER 2021

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m0010gzz)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m0010h03)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m0010hn8)
Caryl Parry Jones

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones.


THU 09:00 Aled Hughes (m0010h61)
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.


THU 11:00 Bore Cothi (m0010h63)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


THU 12:30 Cystadleu-iaith (m0010h65)
Noel James sy’n cwrdd â dysgwyr o Gymru a thu hwnt mewn cwis newydd sbon i bobl sy’n dysgu’r iaith. Yn y rhaglen hon, daw'r dysgwyr o Gaerdydd, Maryland yn yr Unol Daleithiau ac Essen yn Yr Almaen.


THU 13:00 Dros Ginio (m0010h67)
Catrin Haf Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Ifan Evans (m0010h69)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


THU 17:00 Post Prynhawn (m0010h6c)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


THU 18:00 Chwalu Pen (m0010h6f)
Mari Lovgreen wydd yn herio criw o banelwyr i feddwl am ddau beth ar yr un pryd mewn sioe gwis llawn hwyl a ffeithiau difyr a dibwrpas.

Yn ymuno â chapteiniaid yr wythnos, Welsh Whisperer a Catrin Mara, mae ‘r actor Dyfrig Evans ac Alaw Haf, ond mae clywed am yrfa’r fodel boblogaidd yn Chwalu Pen Dyfrig cymaint ag unrhyw gwestiwn am anifeiliaid enwog.


THU 18:30 Cymry Newydd y Cyfnod Clo (m0010h6h)
Dysgu Wrth eu Gwaith

Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:

ADRIAN PRICE
Mae’r Senedd yn un o’r sefydliadau sy’n cynnig gwersi Cymraeg yn y gwaith ac mae Adrian Price, sy’n diwtor yno, yn trafod profiadau pump o ddysgwyr - Barrie Long, Sue Morgan, Alex Hadley, Meic Dauncey a Nigel Barwise.

MEGAN HUTCHINSON
Cyn astudio meddygaeth yng Nghymru, prin oedd gwybodaeth Megan Hutchinson o’r Gymraeg a hithau’n ei hystyried yn iaith farw fel Lladin. Ond bellach mae’n falch iawn o fod yn gallu cyfathrebu yn yr iaith newydd gyda chleifion. Yn ystod y Cyfnod Clo roedd yn feddyg ifanc yn ysbytai Tywysog Siarl Merthyr a Brenhinol Gwent. Bellach mae’n gweithio yn Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd.

DEBORAH MCCARNEY
Roedd Deborah McCarney, sydd o Seland Newydd yn wreiddiol, eisoes yn siarad Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Esperanto cyn dysgu Cymraeg er mwyn symud i Gymru a byw yn Llandysul am chwe blynedd. Erbyn hyn mae’n diwtor gyda Say Something in Welsh ac yn ystod y Cyfnod Clo mae wedi codi pac unwaith eto i fyw yng Ngwlad y Basg.

JAMES HORNE
Symudodd James Horne o Swydd Efrog i Fangor i ddilyn cwrs gradd yn y brifysgol mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg. Ond gan nad oedd yn bosib iddo dreulio cyfnod yn yr Almaen penderfynodd ddysgu Cymraeg, a blwyddyn a hanner yn ddiweddarach mae’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon er mwyn dysgu ieithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.

BEN OWEN-JONES – Cyfle i glywed am lwyddiant yr actor a’r darlithydd wrth ddysgu Cymraeg ym Mlaenau Gwent.


THU 19:00 Byd Huw Stephens (m0010h6k)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd a sgwrs i gael gwybod pa ganeuon sydd wedi newid bywydau pobl. New music and some unexpected gems from the archive.


THU 21:00 Beti a'i Phobol (m0010fd2)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 22:00 Geraint Lloyd (m0010h6m)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



FRIDAY 15 OCTOBER 2021

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m0010h6p)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m0010h6r)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m0010hbr)
Lisa Angharad

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Angharad. Music and entertainment breakfast show with Lisa Angharad.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m0010hbt)
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford. Music and entertainment with Trystan Ellis-Morris and Emma Walford.


FRI 11:00 Bore Cothi (m0010hbw)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


FRI 12:30 Cystadleu-iaith (m0010hby)
Noel James sy’n cwrdd â dysgwyr o Gymru a thu hwnt mewn cwis newydd sbon i bobl sy’n dysgu’r iaith. Yn y rhaglen hon, y ddau dîm gyda’r sgôr uchaf yn ystod yr wythnos sy'n cystadlu yn y rownd derfynol.


FRI 13:00 Dros Ginio (m0010hc0)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Tudur Owen (m0010hc2)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m0010hc4)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


FRI 18:00 Lauren Moore (m0010hc6)
Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Lauren Moore. Friday night music with Lauren Moore.


FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m0010hcb)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.


FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m0010hcg)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda dwy awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.




LIST OF THIS WEEK'S PROGRAMMES
(Note: the times link back to the details; the pids link to the BBC page, including iPlayer)

Aled Hughes 09:00 MON (m0010g67)

Aled Hughes 09:00 TUE (m0010gqn)

Aled Hughes 09:00 WED (m0010gz5)

Aled Hughes 09:00 THU (m0010h61)

Ambell i Gân 19:00 SUN (m0010fdd)

Ar Eich Cais 20:00 SUN (m0010fdg)

Beti a'i Phobol 13:00 SUN (m0010fd2)

Beti a'i Phobol 21:00 THU (m0010fd2)

Bore Cothi 11:00 MON (m0010g69)

Bore Cothi 11:00 TUE (m0010gqq)

Bore Cothi 11:00 WED (m0010gz9)

Bore Cothi 11:00 THU (m0010h63)

Bore Cothi 11:00 FRI (m0010hbw)

Bwrw Golwg 12:30 SUN (m0010fd0)

Byd Huw Stephens 19:00 THU (m0010h6k)

Caniadaeth y Cysegr 16:30 SUN (m0010fcr)

Chwalu Pen 18:00 THU (m0010h6f)

Chwaraeon Radio Cymru 14:00 SAT (m0010fjj)

Chwaraeon Radio Cymru 19:00 MON (m0010g6r)

Cofio 14:00 SUN (m0010fd4)

Cofio 21:00 WED (m0010fd4)

Cymry Newydd y Cyfnod Clo 18:30 MON (m0010g6n)

Cymry Newydd y Cyfnod Clo 18:30 TUE (m0010gr3)

Cymry Newydd y Cyfnod Clo 18:30 WED (m0010gzn)

Cymry Newydd y Cyfnod Clo 18:30 THU (m0010h6h)

Cystadleu-iaith 12:30 MON (m0010g6c)

Cystadleu-iaith 12:30 TUE (m0010gqs)

Cystadleu-iaith 12:30 WED (m0010gzd)

Cystadleu-iaith 12:30 THU (m0010h65)

Cystadleu-iaith 12:30 FRI (m0010hby)

Dei Tomos 17:05 SUN (m0010fd8)

Dei Tomos 21:00 TUE (m0010gr7)

Dros Ginio 13:00 MON (m0010g6g)

Dros Ginio 13:00 TUE (m0010gqv)

Dros Ginio 13:00 WED (m0010gzg)

Dros Ginio 13:00 THU (m0010h67)

Dros Ginio 13:00 FRI (m0010hc0)

Gaynor 21:00 SAT (m0010fjn)

Georgia Ruth 19:00 TUE (m0010gr5)

Geraint Lloyd 22:00 MON (m0010g6t)

Geraint Lloyd 22:00 TUE (m0010gr9)

Geraint Lloyd 22:00 WED (m0010gzv)

Geraint Lloyd 22:00 THU (m0010h6m)

Gweler BBC World Service 00:00 SAT (m00109jt)

Gweler BBC World Service 00:00 SUN (m0010fjq)

Gweler BBC World Service 00:00 MON (m0010fdl)

Gweler BBC World Service 00:00 TUE (m0010g6w)

Gweler BBC World Service 00:00 WED (m0010grc)

Gweler BBC World Service 00:00 THU (m0010gzz)

Gweler BBC World Service 00:00 FRI (m0010h6p)

Gwneud Bywyd yn Haws 18:00 TUE (m0010gr1)

Hywel Gwynfryn 15:00 SUN (m0010fd6)

Ifan Evans 14:00 MON (m0010g6j)

Ifan Evans 14:00 TUE (m0010gqx)

Ifan Evans 14:00 WED (m0010gzj)

Ifan Evans 14:00 THU (m0010h69)

John Hardy 05:30 MON (m0010fdn)

John Hardy 05:30 TUE (m0010g6y)

John Hardy 05:30 WED (m0010grf)

John Hardy 05:30 THU (m0010h03)

John Hardy 05:30 FRI (m0010h6r)

John ac Alun 21:00 SUN (m0010fdj)

Lauren Moore 18:00 FRI (m0010hc6)

Linda Griffiths 05:30 SUN (m0010fjs)

Lisa Gwilym yn Cyflwyno... 19:00 WED (m0010gzq)

Marc Griffiths 17:30 SAT (m0010fjl)

Motor Niwron: Siwrna Sioned 18:30 SUN (m0010fdb)

Motor Niwron: Siwrna Sioned 18:00 WED (m0010fdb)

Nos Wener Ffion Emyr 22:00 FRI (m0010hcg)

Penwythnos Geth a Ger 20:00 FRI (m0010hcb)

Post Prynhawn 17:00 MON (m0010g6l)

Post Prynhawn 17:00 TUE (m0010gqz)

Post Prynhawn 17:00 WED (m0010gzl)

Post Prynhawn 17:00 THU (m0010h6c)

Post Prynhawn 17:00 FRI (m0010hc4)

Richard Rees 05:30 SAT (m00109jw)

Sioe Frecwast 07:00 SAT (m0010g5l)

Sioe Frecwast 07:00 SUN (m0010g41)

Sioe Frecwast 07:00 MON (m0010glh)

Sioe Frecwast 07:00 TUE (m0010gsx)

Sioe Frecwast 07:00 WED (m0010h32)

Sioe Frecwast 07:00 THU (m0010hn8)

Sioe Frecwast 07:00 FRI (m0010hbr)

Stori Tic Toc 17:00 SUN (m000r41n)

Swyn y Sul 10:00 SUN (m0010fcw)

Troi'r Tir 18:00 MON (m0010fcp)

Trystan ac Emma 09:00 FRI (m0010hbt)

Tudur Owen 09:00 SAT (m0010fjb)

Tudur Owen 14:00 FRI (m0010hc2)

Uffern Iaith y Nefoedd 11:00 SAT (m0010fjd)

Y Sioe Sadwrn 11:30 SAT (m0010fjg)

Yr Oedfa 12:00 SUN (m0010fcy)