The BBC has announced that it has a sustainable plan for the future of the BBC Singers, in association with The VOCES8 Foundation.
The threat to reduce the staff of the three English orchestras by 20% has not been lifted, but it is being reconsidered.
See the BBC press release here.

Radio-Lists Home Now on RC2 Contact

RADIO-LISTS: BBC RADIO CYMRU 2
Unofficial Weekly Listings for BBC Radio Cymru 2 — supported by bbc.co.uk/programmes/



SATURDAY 09 JANUARY 2021

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m000qxss)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m000qxsv)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m000r4b9)
Daniel Glyn

Y cyflwynydd Aled Sam yn ateb cwestiynau diog Dan, trac techno'r wythnos, trac o ffilm a llawer mwy.


SAT 09:00 Tudur Owen (m000r46g)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m000r46j)
Y Sioe Sadwrn

Y diddanwr a'r dynwaredwr Geraint Rhys Edwards fydd yn dewis ei hoff ganeuon. Sylwebaethau'r wythnos gan Owain Llyr. Cwis a chan gan Trystan ab Owen, ac mi fyddwn ni'n hel atgofion am flwyddyn arbennig.


SAT 14:00 Chwaraeon Radio Cymru (m000r46l)
Chwaraeon Radio Cymru

Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


SAT 19:15 Marc Griffiths (m000r46n)
Marc Griffiths

Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Ffion Emyr (m000r46q)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 10 JANUARY 2021

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m000r46s)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m000r46v)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m000r585)
Lisa Gwilym

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Gwilym. Music and entertainment breakfast show with Lisa Gwilym.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m000r418)
Lloyd Macey

Lloyd Macey sy'n mynd ar daith gerddorol o gwmpas ei ardal enedigol yng Nghwm Rhondda. Lloyd Macey chooses music for a lazy Sunday, and goes on a musical journey in the Rhondda.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m000r41b)
Yr Oedfa dan arweiniad Charlotte Rushton, Merthyr

Charlotte Rushton, Merthyr yn arwain oedfa ar y thema o ddarganfod tamaid o nefoedd ar y ddaear drwy gwmni Iesu yn enwedig yn wyneb pryder am Covid 19.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m000r41d)
Trump ac anrhefn, cynnal gobaith yn wyneb Covid a thasg fawr elusennau

John Roberts yn trafod Trump ac anrhefn, cynnal gobaith yn wyneb Covid gyda Judith Morris ac Ainsley Griffiths a thasg fawr elusennau gyda Dyfed Wyn Roberts. Bydd Gwnefair Griffith yn dilyn stori creu ac ail-greu Dwylo Dros y Môr.


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m000r41g)
Prif Weithredwr Green Finance Institute yn Llundain, Dr Rhian-Mari Thomas yw'r cwmni. Yn wreiddiol o Gaerdydd, aeth hi ymlaen i astudio Ffiseg yng Nghaerfaddon a Dulyn cyn troi i'r byd arian, ac erbyn hyn yn arwain y Chwyldro Gwyrdd ar yr ochr ariannol.


SUN 14:00 Cofio (m000r41j)
Muriau

'Muriau' ydy testun Cofio yr wythnos hon, sy'n addas iawn wrth i ni syllu ar bedair wal yn ystod clo cenedlaethol arall.

T Llew Jones sy'n rhyfeddu ar y bardd WJ Gruffydd a'i ffrindiau yn adeiladu Tŷ Unnos yn 1962, a Mrs Jane Williams, Ffair Rhos a oedd yn 100 oed yn siarad am ei hatgofion hithau. Mari Emlyn sy'n esbonio'r ysbrydoliaeth tu ôl i'w nofel 'Waliau'.

30 mlynedd wedi cwymp wal Berlin yn 2019, Vaughan Roderick aeth i ymweld â'r ddinas.

Trafod waliau arwyddocaol Cymru, ac ydy codi waliau cerrig yn fath o gelfyddyd?

Y newyddiadurwr Meic Stephens sy'n cyfaddef mae ei waith gwreiddiol o ydy'r pwt o fur ar yr A487 ger Llanrhystud yn cario'r geiriau 'Cofiwch Dryweryn', a'r hanesydd Sara Huws sy’n esbonio fod graffiti yn rhan o ddiwylliant yr ardal.

Cofio eu profiad o fewn muriau carchar wedi eu safiad dros yr iaith mae Enfys Llwyd, Angharad Tomos, Marged Tomos a Meinir Frances.

Dathlu dau gan mlwyddiant y Cob, a dadansoddi hanesion waliau Caerdydd.

Y darlithydd daearyddiaeth Cai Ladd sy'n sôn am syniad arbenigwyr i adeiladu waliau ar wely'r môr i atal rhewlifoedd rhag diflannu ymhellach

Cerdded wal fawr Tseina ddaru Cheryl Pugh Jones i ddathlu ei phenblwydd yn 50.


SUN 15:00 Hywel Gwynfryn (m000r41l)
Hywel Gwynfryn

Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m000r414)
Llawenydd

R. Alun Evans yn cyflwyno hanner awr o foli ar y thema Llawenydd. Congregational singing.


SUN 17:00 Stori Tic Toc (m000r41n)
Siwsi y Seren Wib

Dewch i wrando ar stori am Siwsi y seren wîb, y seren fwyaf disglair yn y gofod i gyd. A story for young listeners.


SUN 17:05 Dei Tomos (m000r41q)
Mae Dei yn trafod gyda Wil Bing, Bethan Gwanas, Bethan Mair a Dewi Prysor am nofelau sydd wedi creu cythrwfl am wahanol resymau ar hyd y blynyddoedd. Mae Wil Bing yn awdur nofel newydd o'r enw Eira'r Haf am griw o feicars treisgar yn amddiffyn eu marchnad gwerthu cyffuriau.

Hefyd, sgwrs gydag Arwel Emlyn Jones am ei gyfrol am y bardd gwlad Dafydd Jones Clytiau Gleision, a Hannah Roberts yn sôn am hanes capel tanddaearol ym mhwll glo Mynydd Newydd ger Abertawe.


SUN 18:30 Mynd am Sbin (m000r41s)
Wrth i enw Sain Abertawe, yr orsaf radio annibynnol gyntaf yng Nghymru, ddod i ben ar ôl dros 40 mlynedd, Siân Sutton sy’n trafod hanes y dyddiau cynnar ac yn holi pa ddyfodol sydd i radio lleol.


SUN 19:00 Y Talwrn (m000r41w)
Manion o'r Mynydd yn herio Tanau Tawe

Manion o'r Mynydd a Tanau Tawe yn cystadlu i fod yn bencampwyr Y Talwrn yn 2021. Two teams of bards compete in Radio Cymru's annual poetry contest.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m000r41y)
Ar Eich Cais

Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m000r420)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 11 JANUARY 2021

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m000r422)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m000r424)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m000r5x8)
Dafydd a Caryl

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.


MON 09:00 Aled Hughes (m000r45c)
Lladd Nadroedd!

Llŷr Titus sy'n dewis ymadroddion a dywediadau sydd wedi eu cymryd o lenyddiaeth Gymraeg; Liliwen Joynson yn esbonio sut mae'n defnyddio ceffylau ar gyfer therapi emosiynol; y Dylunydd Mewnol Mandy Watkins yn trafod sut mae gwneud eich swyddfa gartref yn fwy deniadol.


MON 11:00 Bore Cothi (m000r45f)
Tips ar sut i gadw'r meddwl yn iach!

Andrew Tamplin yn rhoi tips ar sut i gadw'r meddwl yn iach yn ystod y Cyfnod Clo arall, a Menna Baines yn rhoi Munud i Feddwl i ni.


MON 12:30 Dros Ginio (m000r45h)
Dewi Llwyd

Dewi Llwyd a'i westeion yn trafod:

Y newyddion diweddaraf am Covid-19
Edrych yn nôl ar benwythnos o chwaraeon
Dyfodol y diwydiant ceir ar ddechrau blwyddyn newydd
Effaith gwrando ar gerddoriaeth drwy blatfformau digidol, a'r pryder gan cerddorion am y dyfodol yn sgil hyn
Gwestai 'dau cyn dau' ydy'r cyflwynydd Dylan Ebenezer, a'i fam, Jên Ebenezer


MON 14:00 Ifan Evans (m000r45k)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


MON 17:00 Post Prynhawn (m000r45m)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gydag Alun Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Alun Thomas.


MON 18:00 Troi'r Tir (m000r412)
Terwyn Davies sy'n clywed hanes yr arlunydd Elin Crowley o ardal Aberangell ger Machynlleth, wrth iddi sôn am ei gwaith. Hefyd, hanes Ilan Hughes o ardal Glandyfi sy'n rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth eleni. A John Davies, Cadeirydd Bwrdd CAFC sy'n adolygu'r wasg amaethyddol.


MON 18:30 Recordiau Rhys Mwyn (m000r45p)
Alice Coltrane

Clasuron coll o gasgliad Mr Mwyn, a gwesteion yn hel atgofion. Forgotten classics from Mr Mwyn's collection, and guests reminisce.


MON 21:00 Stiwdio (m000r45r)
Dathlu llwyddiant diweddar Theatr Clwyd

Nia Roberts yn dathlu llwyddiant diweddar Theatr Clwyd, yn sgwrsio am gyfle arbennig ar gyfer dramodwyr ifanc sy’n cael ei gynnig gan y Theatr Genedlaethol ar y cyd efo’r Urdd ac S4C, a chlywed am ddyfodol rhithiol Canolfan Pontio yng nghwmni Osian Gwynn, Griff Lynch a Casi Wyn.

Hefyd, Lyn T. Jones yn edrych ar lwyddiant yr opera sebon radio The Archers wrth i’r gyfres gyrraedd carreg filltir arbennig a Catrin Beard yn sgwrsio efo’r awdures Fflur Dafydd am ei chyfrol ddiweddaraf, “Lloerganiadau”.


MON 22:00 Geraint Lloyd (m000r45t)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



TUESDAY 12 JANUARY 2021

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m000r45w)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m000r45y)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m000r633)
Dafydd a Caryl

Tips Podlediadau gan Sioned Mills, cân binc a trac oddi ar albwm yr wythnos Brigyn 2.


TUE 09:00 Aled Hughes (m000r4s2)
Cefn Gwlad

Malcolm Williams a Nigel Denman sy'n dwyn atgofion 'tu ôl i'r llen' o fflimio cyfresi Cefn Gwlad dros y blynyddoedd.

Sgwrs gyda'r hanesydd Owain Jones am amffitheatrau Rhufeinig Cymru.

Hefyd, Rhian Cadwaladr sy'n sôn am y mwynhad o gerdded yn y eira a hithau'n gyfnod clo.


TUE 11:00 Bore Cothi (m000r4s4)
Bardd y Mis Sara Louise Wheeler sydd yn creu cerdd am ei hoffter o "crochet".

Hefyd, Denzil John sy’n rhoi Munud i Feddwl i ni, tra bod Ryan Evans yn sôn am ei daith ffitrwydd a alluogodd e i golli lot fawr o bwysau.


TUE 12:30 Dros Ginio (m000r4s6)
Jennifer Jones

Y newyddion diweddaraf am Covid-19 a hanes busnesau sydd yn mentro ac yn agor yn ystod y cyfnod clo.

Sgwrs am sut mae goresgyn ofn derbyn piciadau a sgwrs gyda phennaeth clwstwr o ysgolion cynradd ym Mryste.

Hefyd, Dylan Iorwerth yn trafod sut mae Elon Musk yn cael ei bortreadu yn y wasg a beth mae 'dyn cyfoethoca’r byd' yn ei olygu?


TUE 14:00 Ifan Evans (m000r4s8)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m000r4sb)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Aled Huw yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m000r4sd)
Endometriosis

Hana Hopwood Griffiths sy'n gofyn beth sy'n gwneud bywyd yn haws i Sophie Richards a Carys Haf wrth iddyn nhw fyw gyda'r cyflwr endometriosis.


TUE 18:30 Hwyrnos Georgia Ruth (m000r4sg)
Sian Eleri yn cyflwyno

Dewis eclectig o gerddoriaeth yn cynnwys cerddoriaeth ryngwladol, byd a thraciau Cymraeg arbrofol, gyda Sian Eleri yn lle Georgia Ruth. Sgwrs efo'r cerddor a chyfansoddwraig Gwenno Morgan a Nathan Williams fydd cynhyrchydd cyntaf 'Stems' i ail-gymysgu trac o ddewis Sian!


TUE 21:00 Dei Tomos (m000r4sj)
Trafodaeth am nofel newydd gyda Wil Bing a Bethan Gwanas. Mae Wil Bing yn awdur nofel o'r enw Eira'r Haf am griw o feicars treisgar yn amddiffyn eu marchnad gwerthu cyffuriau.

Hefyd sgwrs gyda Arwel Emlyn Jones am ei gyfrol am y bardd gwlad Dafydd Jones Clytiau Gleision a Hannah Roberts yn dweud hanes capel tanddaear ym mhwll glo Mynydd Newydd ger Abertawe.


TUE 22:00 Geraint Lloyd (m000r4sl)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



WEDNESDAY 13 JANUARY 2021

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m000r4sn)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m000r4sq)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m000r6c4)
Dafydd a Caryl

Y cyflwynydd Mari Lovgreen sy'n dewis rhai o'i hoff draciau ar y Sioe Frecwast.


WED 09:00 Aled Hughes (m000r4rf)
Robotiaid Clyfar!

Llifon Jones o gwmni Bee Robotics, Caernarfon sy'n trafod y datblygiad ym maes robotiaid clyfar; Gareth Roberts sy'n trafod faint o golled ydi peidio clywed y siantau pel-droed ar y teras; Lewys Wyn o'r Urdd a Sesiynau Diwydiant Cerddoriaeth; a phrofiad y meddyg teulu Dr Dylan Parry o Abergele wrth iddo weinyddu'r brechlyn i atal Covid-19.


WED 11:00 Bore Cothi (m000r4rh)
Lowri Evans yr optegydd yn rhoi tips ar sut i ymarfer y llygaid mewn cyfnod lle mae pawb yn defnyddio llawer iawn o waith sgrin

Hefyd Caryl Haf sy’n rhoi Munud i Feddwl i ni, tra bod Tudur Eames yn sôn am Eisteddfod Rithiol Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.


WED 12:30 Dros Ginio (m000r4rk)
Bethan Rhys Roberts

Bethan Rhys Roberts a’i gwesteion yn trafod:

Y newyddion diweddaraf am Covid-19
Sefyllfa democratiaeth ledled y byd
Tywydd garw a chyfnewidiol yr wythnosau diwethaf
80 mlynedd ers marwolaeth James Joyce a’i ddylanwand ar genedlaethau o feirdd a llenorion
Ydy ‘gobaith’ yn ysgogi creadigrwydd?


WED 14:00 Ifan Evans (m000r4rm)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


WED 17:00 Post Prynhawn (m000r4rp)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gydag Aled Huw yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Aled Huw.


WED 18:00 Mynd am Sbin (m000r41s)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


WED 18:30 Lisa Gwilym yn Cyflwyno... (m000r4rr)
Sywel Nyw

Lewys Wyn sy'n trafod ei brosiect 'Sywel Nyw' gyda Lisa, wrth iddo ryddhau caneuon newydd.

Elis Derby oedd yn cuddio y tu ôl i'r twll clo cerddorol wythnos diwethaf, ond pwy sydd yn gwneud hynny wythnos yma?

Cawn glywed ailgymysgiad diweddaraf o gasgliad UV gan Rogue Jones, a chawn wybod mwy am albwm y mis, sef Y Dydd Olaf gan Gwenno o 2015.


WED 21:00 Y Talwrn (m000r41w)
[Repeat of broadcast at 19:00 on Sunday]


WED 22:00 Geraint Lloyd (m000r4rt)
Marged Elin Thomas o Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf yn siarad am brosiect 'Medrau', sy'n annog trigolion y sir i rannu eu sgiliau a'u diddordebau gyda'i gilydd.

Sgwrs gyda Ffrind y Rhaglen, y ffermwr Gareth Wyn Jones.



THURSDAY 14 JANUARY 2021

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m000r4rw)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m000r4rz)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m000r952)
Dafydd a Caryl

Cwis gan Tomos a Dylan, a Caryl sy'n croesawu babis mis Rhagfyr i'r byd a hynny ar gân.


THU 09:00 Aled Hughes (m000r4pg)
Cewri y Byd Rygbi

Dr Gareth Jones yn sôn am gewri'r byd rygbi; Kim Warrington sy'n trafod apêl nofio mewn dŵr oer; Beca Brown yn sôn am atal dweud; a Guto Bongos yn trafod preifatrwydd apiau.


THU 11:00 Bore Cothi (m000r4pj)
Yr actores Victoria Pugh sy'n “mynd am dro” efo Shân – yn sôn am ei hoff lecyn o fynd am dro.

Hefyd, Elen Lloyd Roberts sy'n sgwrsio am 'OPRA Sebon' - cynhyrchiad operatig newydd gan gwmni OPRA Cymru; a Siwan Haf a Iestyn Owen Hopkins sy'n sôn am raglen newydd “Ffit Cymru”.


THU 12:30 Dros Ginio (m000r4pl)
Catrin Haf Jones

Catrin Haf Jones a’i gwesteion yn trafod y newyddion diweddaraf ynglŷn â Covid-19 a gwleidyddiaeth America

Hefyd, trafod hanes pandemigs dros y canrifoedd a’u heffaith ar y byd; sgwrs gyda Rhun Wmffra Dafydd, Cadeirydd newydd Cymdeithas y Cymod; hanes gŵr busnes o ardal Dyffryn Ogwen sydd wedi ymgartrefu ar Ynysoedd y Phillippines; a rhinweddau'r oren yng nghwmni'r hanesydd bwyd Carwyn Graves


THU 14:00 Ifan Evans (m000r4pn)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


THU 17:00 Post Prynhawn (m000r4pq)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Nia Thomas.


THU 18:00 Benbaladr (m000r4ps)
Dwy Wlad, Un Feirws

Dewi Rogers o'r Eidal ac Eifion Davies o Dde Corea sydd yn trafod sefyllfa COVID, wrth i ni gymharu dwy wlad gafodd eu taro'n wael gan y feirws yn gynnar iawn yn y pandemig.

Cymharu bywyd yng Ngwlad Pwyl a bywyd yn yr Unol Daleithiau wna Nia Jones, a chawn glywed gan Andy Bell am ymdrechion yr Awstraliaid i newid eu hanthem genedlaethol er mwyn ei gwneud yn fwy cynhwysol i'r bobl frodorol.


THU 18:30 Byd Huw Stephens (m000r4pv)
Sian Adler yn sgwrsio am artistiaid Prosiect Forte 2021, a Mari Lovgreen yn rhannu'r caneuon wnaeth newid ei bywyd.


THU 21:00 Beti a'i Phobol (m000r41g)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 22:00 Geraint Lloyd (m000r4px)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



FRIDAY 15 JANUARY 2021

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m000r4pz)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m000r4q1)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m000r9rn)
Huw Stephens

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Huw Stephens. Music and entertainment breakfast show with Huw Stephens.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m000r548)
Sut mae gwneud y baned berffaith? Eirlys Smith o Gaffi Cwpan Pinc Llangadfan sy'n cynnig ateb.

Hefyd, Rhiannon Salisbury o Aberystwyth sy'n dewis y gân orau i'r bore - ac wrth gwrs, cwis wythnosol Yodel Ieu!


FRI 11:00 Bore Cothi (m000r54b)
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Hetiau, Angela Skym fydd yn son am ei hoffter o hetiau

Hefyd, Elin Maher sy'n rhoi Munud i Feddwl i ni, tra bod y Parchedig Evan Morgan yn son am Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol fydd yn ail-ddechrau dydd Sul


FRI 12:30 Dros Ginio (m000r54d)
Dewi Llwyd

Trin a thrafod Cymru a’r byd. Dewi Llwyd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Tudur Owen (m000r54g)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m000r54j)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Nia Thomas.


FRI 18:00 Lauren Moore (m000r54l)
Dwy awr o gerddoriaeth yng nghwmni Lauren Moore. Two hours of music with Lauren Moore.


FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m000r54n)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.


FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m000r54q)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda dwy awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.




LIST OF THIS WEEK'S PROGRAMMES
(Note: the times link back to the details; the pids link to the BBC page, including iPlayer)

Aled Hughes 09:00 MON (m000r45c)

Aled Hughes 09:00 TUE (m000r4s2)

Aled Hughes 09:00 WED (m000r4rf)

Aled Hughes 09:00 THU (m000r4pg)

Ar Eich Cais 20:00 SUN (m000r41y)

Benbaladr 18:00 THU (m000r4ps)

Beti a'i Phobol 13:00 SUN (m000r41g)

Beti a'i Phobol 21:00 THU (m000r41g)

Bore Cothi 11:00 MON (m000r45f)

Bore Cothi 11:00 TUE (m000r4s4)

Bore Cothi 11:00 WED (m000r4rh)

Bore Cothi 11:00 THU (m000r4pj)

Bore Cothi 11:00 FRI (m000r54b)

Bwrw Golwg 12:30 SUN (m000r41d)

Byd Huw Stephens 18:30 THU (m000r4pv)

Caniadaeth y Cysegr 16:30 SUN (m000r414)

Chwaraeon Radio Cymru 14:00 SAT (m000r46l)

Cofio 14:00 SUN (m000r41j)

Dei Tomos 17:05 SUN (m000r41q)

Dei Tomos 21:00 TUE (m000r4sj)

Dros Ginio 12:30 MON (m000r45h)

Dros Ginio 12:30 TUE (m000r4s6)

Dros Ginio 12:30 WED (m000r4rk)

Dros Ginio 12:30 THU (m000r4pl)

Dros Ginio 12:30 FRI (m000r54d)

Ffion Emyr 21:00 SAT (m000r46q)

Geraint Lloyd 22:00 MON (m000r45t)

Geraint Lloyd 22:00 TUE (m000r4sl)

Geraint Lloyd 22:00 WED (m000r4rt)

Geraint Lloyd 22:00 THU (m000r4px)

Gweler BBC World Service 00:00 SAT (m000qxss)

Gweler BBC World Service 00:00 SUN (m000r46s)

Gweler BBC World Service 00:00 MON (m000r422)

Gweler BBC World Service 00:00 TUE (m000r45w)

Gweler BBC World Service 00:00 WED (m000r4sn)

Gweler BBC World Service 00:00 THU (m000r4rw)

Gweler BBC World Service 00:00 FRI (m000r4pz)

Gwneud Bywyd yn Haws 18:00 TUE (m000r4sd)

Hwyrnos Georgia Ruth 18:30 TUE (m000r4sg)

Hywel Gwynfryn 15:00 SUN (m000r41l)

Ifan Evans 14:00 MON (m000r45k)

Ifan Evans 14:00 TUE (m000r4s8)

Ifan Evans 14:00 WED (m000r4rm)

Ifan Evans 14:00 THU (m000r4pn)

John Hardy 05:30 MON (m000r424)

John Hardy 05:30 TUE (m000r45y)

John Hardy 05:30 WED (m000r4sq)

John Hardy 05:30 THU (m000r4rz)

John Hardy 05:30 FRI (m000r4q1)

John ac Alun 21:00 SUN (m000r420)

Lauren Moore 18:00 FRI (m000r54l)

Linda Griffiths 05:30 SUN (m000r46v)

Lisa Gwilym yn Cyflwyno... 18:30 WED (m000r4rr)

Marc Griffiths 19:15 SAT (m000r46n)

Mynd am Sbin 18:30 SUN (m000r41s)

Mynd am Sbin 18:00 WED (m000r41s)

Nos Wener Ffion Emyr 22:00 FRI (m000r54q)

Penwythnos Geth a Ger 20:00 FRI (m000r54n)

Post Prynhawn 17:00 MON (m000r45m)

Post Prynhawn 17:00 TUE (m000r4sb)

Post Prynhawn 17:00 WED (m000r4rp)

Post Prynhawn 17:00 THU (m000r4pq)

Post Prynhawn 17:00 FRI (m000r54j)

Recordiau Rhys Mwyn 18:30 MON (m000r45p)

Richard Rees 05:30 SAT (m000qxsv)

Sioe Frecwast 07:00 SAT (m000r4b9)

Sioe Frecwast 07:00 SUN (m000r585)

Sioe Frecwast 07:00 MON (m000r5x8)

Sioe Frecwast 07:00 TUE (m000r633)

Sioe Frecwast 07:00 WED (m000r6c4)

Sioe Frecwast 07:00 THU (m000r952)

Sioe Frecwast 07:00 FRI (m000r9rn)

Stiwdio 21:00 MON (m000r45r)

Stori Tic Toc 17:00 SUN (m000r41n)

Swyn y Sul 10:00 SUN (m000r418)

Troi'r Tir 18:00 MON (m000r412)

Trystan ac Emma 09:00 FRI (m000r548)

Tudur Owen 09:00 SAT (m000r46g)

Tudur Owen 14:00 FRI (m000r54g)

Y Sioe Sadwrn 11:00 SAT (m000r46j)

Y Talwrn 19:00 SUN (m000r41w)

Y Talwrn 21:00 WED (m000r41w)

Yr Oedfa 12:00 SUN (m000r41b)