SATURDAY 29 MAY 2021

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m000wdg0)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m000wdg2)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m000wkg7)
Daniel Glyn

Yr actor Steffan Cennydd sy'n ateb cwestiynau diog Daniel Glyn bore ma. Trac o ffilm, trac techno'r wythnos a llawer mwy.


SAT 09:00 Tudur Owen (m000wk9x)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m000wk9z)
Yws Gwynedd yn dewis caneuon i godi calon

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips. Yws Gwynedd yn dewis caneuon i godi calon, cân a chwis gan Trystan ab Owen, a sylwebaethau'r wythnos gan Owain Llyr.


SAT 13:30 Chwaraeon Radio Cymru (m000wkb3)
Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


SAT 17:30 Byd Bach Fy Hun (m000wkb1)
Ma' Nerys yn ein tywys ni ar stori ei siwrne unigryw hi o 2020 i 2027, a’r newid anferth nath ddigwydd yn ei byd bach hi.

Cast:
Carys Eleri
Simon Watts
Geraint Rhys Edwards
Lowri Gwynne
Richard Elis
Buddug Verona James


SAT 18:00 Marc Griffiths (m000wkb5)
Ceisiadau Gwneud Gwahaniaeth

Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau.

Mae Marc yn holi beth sydd wedi Gwneud Gwahaniaeth a bod o gymorth i chi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? Danfonwch gais i ddiolch i gymydog ffeind, neu gais i gofio at ffrind nad ydych chi wedi eu gweld ers sbel. Hefyd, cysylltwch i rannu eich cynghorion am yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth i chi; boed yn gwrando ar gerddoriaeth newydd, ymarfer corff a byd natur, coginio, gwneud rhywbeth ar y cyd ar zoom … mae’r rhestr yn ddiddiwedd!


SAT 21:00 Ffion Emyr (m000wkb7)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 30 MAY 2021

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m000wkb9)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m000wkbc)
Rhaglen arbennig am yr Urdd

Linda Griffiths yn cyflwyno rhaglen gerddorol arbennig am yr Urdd ac eisteddfodau'r gorffennol. Linda Griffiths presents a special programme about the Urdd Eisteddfod.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m000wkwz)
Lisa Gwilym

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Gwilym. Music and entertainment breakfast show with Lisa Gwilym.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m000wjht)
Elin Manahan Thomas

Y soprano Elin Manahan Thomas yn cyflwyno cerddoriaeth ar gyfer bore Sul. Elin Manahan Thomas presents music for Sunday morning.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m000wjj0)
Urdd Gobaith Cymru

Oedfa dan arweiniad Mared Edwards, Llywydd yr Urdd ynghŷd ag aelodau blaenllaw eraill o'r mudiad sef Siwan Dafydd, Nia Haf ac Ethan Williams a hynny ar drothwy Eisteddfod T 2021. Ceir darlleniad hefyd gan Gwen Down.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m000wjj6)
Ydi'r Cymry'n gwirioni gormod ar gapeli?

John Roberts yn trafod ydi'r Cymry'n gwirioni gormod ar gapeli gyda Sioned Hughes yr ymgynghorydd tai, Trystan Lewis yr hanesydd capeli a Dyfrig Rees Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr.
Ceir sylwadau hefyd gan Ann Roberts am brosiect Hafod Ceiri yn Llithfaen, Elfed Wyn ap Elwyn am ddyfodol capel Utica, Gellilydan ac Eifion Wynne am ei obeithion am eglwys anenwadol.


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m000wb22)
Paul Sambrook

Gwestai Beti yr wythnos hon yw'r archeolegydd Paul Sambrook o Gastell-Nedd sydd yn sôn am ei fagwraeth yn y dre ac am gyfnod yng Nghanada, cyn darganfod y Gymraeg yn ei arddegau hwyr.


SUN 14:00 Cofio (m000wjjl)
Gwneud Gwahaniaeth

Mae'r ysgol yn ddylanwad mawr arnom a dyma T Llew Jones yn egluro sut nath clywed stori pan oedd yn yr ysgol gynradd ddylanwadu cymaint arno. Erbyn hyn, mae sawl Ysgol Gymraeg yng Nghymru, ond yn y 50au mi roedd yn frwydr i gael ysgol cyfrwng Cymraeg a Hilda Owen o Gwm Afan sy'n cofio'r frwydr i gael addysg Gymraeg i'w phlant. Does dim amheuaeth fod y cyfeillgarwch o ganu yn gwneud gwahaniaeth ac mae Lily Richards yn gyfarwydd iawn â nifer o gorau ac arweinwyr yn ardal Dowlais a Merthyr. Mudiad sy' wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ferched Cymru yw Merched y Wawr a Zonia Bowen sy'n sôn am sefydlu'r gangen gyntaf yn y Parc, ger y Bala.

Cofio aberth Rachel Barrett, a anwyd yng Nghaerfyrddin yn 1874 a'i magu yn Llandeilo, a'i brwydr i gael y bleidlais i ferched - mi roedd hi'n un o'r "suffragettes" .

Yn 2020 fe enillodd Tirion Thomas o'r Sarnau wobr 'Arwr Tawel Cymru 2020' yng ngwobrau personoliaeth chwaraeon y BBC am ei gwaith efo rygbi merched.

Bethan Wyn Jones yn holi Miss Elizabeth M Hughes o Ynys Cybi am ei gyrfa fel nyrs yn 20au'r ganrif ddiwethaf. Aros ym maes iechyd a stori anhygoel Sarah Roberts, Pwllheli a oedd yn gyrru ambiwlans adeg yr Ail Ryfel Byd, yna Dr Emyr Wyn Jones o Ben Llŷn a oedd yn gweithio yn y Royal Infirmary yn Lerpwl gan arbenigo ar y galon. Emyr Williams o Lanbedr Pont Steffan yn trafod cyfeillgarwch arbennig wedi trawsblaniad mêr-esgyrn a Rhian Evans, Llyfrgellydd yng Ngholeg y Drindod yn sôn am ddechrau llyfrau llafar i’r deillion.

Atgofion Caradog Williams, Cilcennin a fu’n blismon yn Llundain yn 50au a 60au’r ganrif ddiwethaf - ac yn cofio angladd Winston Churchill.
George Jones o dîm Achub Mynydd Llanberis yn sôn am eu gwaith fel gwasanaeth argyfwng a'r ffaith ei fod i gyd yn wirfoddol.


SUN 15:00 Hywel Gwynfryn (m000wjjq)
Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m000jdwg)
Caniadaeth y Cysegr

Steffan Rhys Hughes sy'n cyflwyno hanner awr o ganu mawl, gyda blas Eisteddfodol. Steffan Rhys Hughes introduces performers who've been influenced by congregational hymn singing.


SUN 17:00 Stori Tic Toc (m000p0c9)
Y Ffliw

Dewch i wrando ar stori am ddau efaill, Daniel a Math, a’r ffliw a stopiodd eu cynlluniau ar gyfer y gwyliau.


SUN 17:05 Dei Tomos (m000wjjv)
Cythraul canu corawl, rhyddiaith yr Oesoedd Canol a 200 mlwyddiant marw Jac Glan Gors

Mae Dei yn trafod cythraul canu corawl a dechreuad y traddodiad fod Cymru yn 'Wlad y Gân' gyda Dean Powell, mae Dr Sara Elin yn eiriol ar ran 'prydferthwch' rhyddiaith yr Oesoedd Canol, dathlu 200 mlwyddiant marw y cymeriad o Uwch Aled, Jac Glan Gors, wna Gari Wyn tra bod y naturiaethwraig Bethan Wyn Jones yn datgelu pa un yw ei hoff gerdd - Y Llwynog gan R Williams Parry.


SUN 18:30 Beth yw'r ots gennyf i am Brexit? (m000wjjz)
Pa flas fydd ar Brexit?

Siôn Tomos Owen sy'n ystyried effaith Brexit ar fwyd a diod yng Nghymru. Siôn Tomos Owen considers the effects of Brexit on the food and drink industry in Wales.


SUN 19:00 Y Talwrn (m000wjk3)
Y Chwe mil a Thalybont

Y Chwe Mil a Thalybont yn cystadlu i fod yn bencampwyr Y Talwrn yn 2021.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m000wjk7)
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m000wjkb)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 31 MAY 2021

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m000wjkd)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m000wjkg)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m000wj8j)
Caryl ac Alun

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones ac Alun Williams. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones and Alun Williams.


MON 09:00 Mirain, Ellis a T (m000wjb3)
Mirain Iwerydd, Ellis Lloyd Jones a'r criw yn cymryd drosodd Radio Cymru 2 am wythnos. Mirain Iwerydd and Ellis Lloyd Jones take over Radio Cymru 2 for a week.


MON 11:00 Shelley a Rhydian (m000wm85)
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Shelley a Rhydian. Music and entertainment with Shelley and Rhydian.


MON 12:00 Bwrdd Crwn (m000wj8s)
Mae Sian, Bethan a Sandra yn edrych ymlaen at noson fach mewn gwesty moethus ond mae sioc yn eu disgwyl wrth iddyn nhw orfod wynebu y gorffennol.

Cast:
Maureen Rhys
Iestyn Arwel
Lisa Jên
Catrin Mara
Fflur Medi
Lois Elain Jones


MON 12:50 Hanes yr Iaith Mewn 50 Gair (b0916rnf)
Pêl

Ifor ap Glyn yn edrych ar darddiad a datblygiad y gair pêl. Ifor ap Glyn explores pêl, the Welsh word for ball.


MON 13:00 Y Bachwr Swynol (m000wj8x)
Dafydd Duggan yn cymryd cip ar hanes ei gyfaill, Rhydian Jenkins, y tenor o Faesteg sydd hefyd yn fachwr i dîm rygbi Pontypridd.


MON 13:30 Fy Stori I (m000wj91)
Bethan, Osian ac Angela

Bethan Maria Williams yn siarad yn emosiynol am fethu â bod gyda'i thad, y pêl-droediwr rhyngwladol Dai Davies, yn ystod y dyddiau cyn iddo farw.

Osian Leader yn sôn am freuddwyd yn troi'n dipyn o hunllef ar ôl iddo brynu ci i'w deulu.

Angela Jones yn egluro pam ei bod hi wrth ei bodd yn nofio mewn dŵr rhewllyd.


MON 14:00 Eisteddfod T (m000wj97)
Ifan Jones Evans a Ffion Emyr yn cyflwyno uchafbwyntiau Eisteddfod T 2021. Highlights of 2021's Eisteddfod T.


MON 17:00 Post Prynhawn (m000wj9f)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Nia Thomas yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


MON 17:30 Dai Davies (m000wj9k)
Nia Lloyd Jones yn sgwrsio gyda chyn gôl-geidwad Cymru, y diweddar Dai Davies. Nia Lloyd Jones chats with fomer Wales goalkeeper, the late Dai Davies.


MON 18:00 Troi'r Tir (m000wj9p)
Llaeth, llefrith a mwy o laeth!

Llaeth sy'n cael y sylw yn y rhaglen yma, wrth i ni nodi Diwrnod Llaeth y Byd ar 1 Mehefin.

Hanes Huw Foulkes o Landyrnog sydd wedi ail-ddechrau godro ar ôl saib o 16 mlynedd.

Hefyd, stori'r ffermwr Huw Jones o Lanerchymedd ar Ynys Môn, sydd ar fin lansio ysgytlaeth newydd gan ddefnyddio llaeth defaid.

Annwen Jones o Edern ger Pwllheli yn sôn am ei chwmni hufen iâ, Glasu

Y diweddaraf o'r diwydiant llaeth gyda Richard Davies, a rhai o ffermwyr Cymru'n trafod y cynnydd mewn poblogrwydd y peiriannau gwerthu poteli llaeth.


MON 18:30 Recordiau Rhys Mwyn (m000wj9s)
Y Diliau

Sgwrs efo aelodau Y Diliau, Meleri, Gaynor, Lynwen a Mair; hefyd Chris Merrick Hughes, drymar Adam & The Ants yn trafod ei gysylltiadau Cymreig.


MON 21:00 Stiwdio (m000wj9v)
The Lark Ascending, Raymond Williams, Ivor Novello a 'Cats' yn 40

Geraint Lewis sydd yn olrhain hanes y darn cerddoriaeth fythol-boblogaidd The Lark Ascending gan Vaughan Williams, a hynny ganrif union ers y perfformiad cyntaf.

Yr Athro Daniel Williams yn edrych ar fywyd a chyfraniad yr academydd a'r awdur Raymond Williams, gan mlynedd ers ei eni.

Mae Euros Rhys Evans yn olrhain hanes bywyd a gyrfa y cyfansoddwr sioeau cerdd o Gaerdydd Ivor Novello, saith deg o flynyddoedd ers ei farwolaeth.

A gan aros ym myd y sioeau cerdd, Steffan Rhys Hughes sydd yn dathlu deugain mlynedd ers y perfformiad cyntaf o Cats gan Andrew Lloyd Webber.


MON 22:00 Geraint Lloyd (m000wj9x)
Garddio hefo'r plant

Carol Garddio sy'n annog pobl i arddio gyda'u plant, a chawn glywed am her bersonol Rhian Cadwaladr i gerdded nifer o fynyddoedd.



TUESDAY 01 JUNE 2021

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m000wj9z)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m000wjb1)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m000wlb5)
Caryl a Geraint

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones a Geraint Hardy. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones and Geraint Hardy.


TUE 09:00 Mirain, Ellis a T (m000wlb7)
Mirain Iwerydd, Ellis Lloyd Jones a'r criw yn cymryd drosodd Radio Cymru 2 am wythnos. Mirain Iwerydd and Ellis Lloyd Jones take over Radio Cymru 2 for a week.


TUE 11:00 Bore Cothi (m000wl0c)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


TUE 12:30 Dros Ginio (m000wl0f)
Iolo ap Dafydd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Iolo ap Dafydd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


TUE 14:00 Eisteddfod T (m000wl0h)
Ifan Jones Evans a Ffion Emyr yn cyflwyno uchafbwyntiau Eisteddfod T 2021. Highlights of 2021's Eisteddfod T.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m000wl0k)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Alun Thomas yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m000wl0m)
Hanna Hopwood Griffiths a'i gwesteion sy'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws. Hanna Hopwood Griffiths and her guests discuss things that can make life easier.


TUE 18:30 Sian Eleri (m000wl0p)
Sian Eleri yn cyflwyno cymysgedd o gerddoriaeth newydd i ymlacio iddo. New music to relax to, introduced by Sian Eleri.


TUE 21:00 Dei Tomos (m000wl0r)
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant, mewn fersiwn fyrrach o raglen nos Sul. A shortened edition of Dei's Sunday evening programme.


TUE 22:00 Geraint Lloyd (m000wl0t)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



WEDNESDAY 02 JUNE 2021

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m000wl0w)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m000wl0y)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m000wkmf)
Caryl a Geraint

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones a Geraint Hardy. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones and Geraint Hardy.


WED 09:00 Mirain, Ellis a T (m000wkmh)
Mirain Iwerydd, Ellis Lloyd Jones a'r criw yn cymryd drosodd Radio Cymru 2 am wythnos. Mirain Iwerydd and Ellis Lloyd Jones take over Radio Cymru 2 for a week.


WED 11:00 Bore Cothi (m000wjsb)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


WED 12:30 Dros Ginio (m000wjsg)
Vaughan Roderick

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Vaughan Roderick sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


WED 14:00 Eisteddfod T (m000wjsl)
Ifan Jones Evans a Ffion Emyr yn cyflwyno uchafbwyntiau Eisteddfod T 2021. Highlights of 2021's Eisteddfod T.


WED 17:00 Post Prynhawn (m000wjsn)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Alun Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond.


WED 18:00 Beth yw'r ots gennyf i am Brexit? (m000wjjz)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


WED 18:30 Carl ac Alun (m000wv1z)
Ffrainc v Cymru

Carl ac Alun yn edrych 'mlaen at y gêm bêl-droed gyfeillgar rhwng Ffrainc a Chymru. Carl and Alun look ahead to France v Wales.


WED 19:30 Chwaraeon Radio Cymru (m000wn7c)
Ffrainc v Cymru

Sylwebaeth fyw o gêm gyfeillgar Ffrainc v Cymru. Live commentary from the friendly between France and Wales.


WED 22:15 Geraint Lloyd (m000wjss)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



THURSDAY 03 JUNE 2021

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m000wjsv)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m000wjsx)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m000wldc)
Caryl a Geraint

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Caryl Parry Jones a Geraint Hardy. Music and entertainment breakfast show with Caryl Parry Jones and Geraint Hardy.


THU 09:00 Mirain, Ellis a T (m000wldf)
Mirain Iwerydd, Ellis Lloyd Jones a'r criw yn cymryd drosodd Radio Cymru 2 am wythnos. Mirain Iwerydd and Ellis Lloyd Jones take over Radio Cymru 2 for a week.


THU 11:00 Bore Cothi (m000wldh)
Croeso cynnes dros baned gyda Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.


THU 12:30 Dros Ginio (m000wldk)
Catrin Haf Jones

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Eisteddfod T (m000wldm)
Ifan Jones Evans a Ffion Emyr yn cyflwyno uchafbwyntiau Eisteddfod T 2021. Highlights of 2021's Eisteddfod T.


THU 17:00 Post Prynhawn (m000wldp)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


THU 18:00 Hawl i Holi (m000wldr)
Trafodaeth gyfoes ar bynciau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Topical discussion on local, national and international issues.


THU 19:00 Byd Huw Stephens (m000wldt)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd o'r archif, a mix gwaith cartref. New music, an occasional unfamiliar gem from the archives, plus a homework mix.


THU 21:00 Beti a'i Phobol (m000wb22)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 22:00 Geraint Lloyd (m000wldw)
Cerddoriaeth a sgwrsio ar y shifft hwyr. Music and chat on the late shift.



FRIDAY 04 JUNE 2021

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m000wldy)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m000wlf0)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m000wm0x)
Huw Stephens

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Huw Stephens. Music and entertainment breakfast show with Huw Stephens.


FRI 09:00 Mirain, Ellis a T (m000wm0z)
Mirain Iwerydd, Ellis Lloyd Jones a'r criw yn cymryd drosodd Radio Cymru 2 am wythnos. Mirain Iwerydd and Ellis Lloyd Jones take over Radio Cymru 2 for a week.


FRI 11:00 Bore Cothi (m000wm11)
Hanna Hopwood Griffiths yn cyflwyno

Croeso cynnes dros baned gyda Hanna Hopwood Griffiths yn cyflwyno yn lle Shân Cothi. A warm welcome over a cuppa with Hanna Hopwood Griffiths sitting in for Shân Cothi.


FRI 12:30 Dros Ginio (m000wm13)
Iolo ap Dafydd

Trin a thrafod Cymru a'r byd. Iolo ap Dafydd sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


FRI 14:00 Eisteddfod T (m000wm15)
Ifan Jones Evans yn cyflwyno uchafbwyntiau Eisteddfod T 2021. Highlights of 2021's Eisteddfod T.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m000wm17)
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones yn cyflwyno.The day's news in Wales and beyond.


FRI 18:00 Lauren Moore (m000wm19)
Cerddoriaeth ar gyfer nos Wener yng nghwmni Lauren Moore. Friday night music with Lauren Moore.


FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m000wm1c)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.


FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m000wm1f)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda dwy awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.