Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.
Y newyddiadurwr Steffan Jenkins sy'n ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Trac o ffilm, trac techno'r wythnos a llawer mwy.
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips. Y cerddor a'r digrifwr Hywel Pitts sy'n dewis Caneuon Codi Calon. Cwis a Chân gan Trystan ab Owen, sylwebaethau'r wythnos gan Owain Llyr a llawer mwy.
Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.
Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night.
SUNDAY 21 FEBRUARY 2021
SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m000shf6)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.
SUN 05:30 Linda Griffiths (m000shf8)
Dechreuwch eich dydd Sul yn sain dewis cerddorol Linda Griffiths. Start your Sunday with Linda Griffiths' favourite music.
SUN 07:00 Sioe Frecwast (m000sh5l)
Lisa Gwilym
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Gwilym. Music and entertainment breakfast show with Lisa Gwilym.
SUN 10:00 Swyn y Sul (m000sgps)
Buddug Verona James
Cerddoriaeth amrywiol dan y thema 'dawns', yng nghwmni Buddug Verona James. A variety of music in the company of Buddug Verona James - today's theme is 'dance'.
SUN 12:00 Yr Oedfa (m000sgpx)
Oedfa gyntaf y Grawys dan arweiniad Angharad James, Hatcham
Oedfa gyntaf y Grawys dan arweiniad Angharad James ficer eglwys St Catherine, Hatcham, yn annog pobl i geisio'r tawelwch a'r llonydd sydd yn gymorth i glywed llais Duw a derbyn ei gariad.
SUN 12:30 Bwrw Golwg (m000sgq2)
Ffydd a chenedlaetholdeb, ffydd a'r amgylchedd & Grawys
John Roberts yn trafod ffydd a chenedlaetholdeb, ffydd a'r amgylchedd a Grawys gyda Gwennan Higham, Rhys Llwyd a Hefin Jones. Hefyd sylwadau gan ieuenctid capel Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd.
SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m000sgq6)
Mared Lewis
Gwestai Beti George yw'r awdures o Sir Fôn, Mared Lewis.
Mae'n awdures llyfrau megis Esgid Wag, Y Maison Du Soleil a Mîn y Môr a chawn glywed am ei magwraeth ac am ei chariad amlwg tuag at ysgrifennu.
SUN 14:00 Cofio (m000sgqb)
Cofebau
Cofio ein cewri a'n harwyr wrth roi sylw i gofebau Cymru. Clodfori ‘di’r bwriad, ond ‘dyw pob un ddim yn taro deuddeg.
Ymhlith y cofebau sy’n cael ein sylw ma' Lloyd George yng Nghaernarfon, Aneurin Bevan yng Nghaerdydd, Daniel Owen yn Yr Wyddgrug, Dr William Price yn Llantrisant, Hedd Wyn, Owain Glyndŵr, Tommy Cooper a HM Stanley. Enwogion Cymreig niferus, ond eto, dim un ferch? Sara Huws sy’n trafod y prinder o gofebau i ferched. A sgwrs rymus ac emosiynol am ddyn ifanc, dewr, o Ferthyr a gollodd ei fywyd yn y sgwâr bocsio, sef Johnny Owen.
SUN 15:00 Hywel Gwynfryn (m000sgqf)
Hywel Gwynfryn
Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.
SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m000sgpj)
Maddeuant
R. Alun Evans yn cyflwyno hanner awr o ganu cynulleidfaol ar y thema Maddeuant.
SUN 17:00 Stori Tic Toc (m000sgqk)
Nicw a Begla
Stori ar gyfer ein gwrandawyr ifanc. Dewch i wrando ar stori am fachgen bach o’r enw Nicw a’i ffrind Begla.
SUN 17:05 Dei Tomos (m000sgqp)
Plâu, straeon byrion a chymharu eisteddfodau
Y Parchedig Alun Tudur sy'n manylu ar sawl pla ar hyd yr oesoedd - o bla'r Aifft yn y Beibl i'r Covid-19 presennol.
Straeon byrion Mihangel Morgan sy'n dod dan chwyddwydr Rhiannon Marks, tra mae Trystan Lewis yn datgelu pam fod un o gerddi John Roderick Rees yn ei gyfareddu.
Ac mae Elen Haf yn cymharu tair eisteddfod leol rhwng 1890 a 1910.
SUN 18:30 Byd Iolo (m000sgfv)
Yr Ardd
Ar gyfnod o gyfyngiadau oherwydd Covid-19, mae Iolo Williams yn ein tywys o amgylch ei ardd bywyd gwyllt ei hun, gan sôn sut mae gwylio byd natur wedi bod o gymorth iddo fe yn ystod y misoedd diwethaf.
SUN 19:00 Y Talwrn (m000sgfz)
Tegeingl a Y Llewod Cochion
Tegeingl a Y Llewod Cochion yw'r timau sy'n cystadlu i fod yn bencampwyr Y Talwrn yn 2021. Two teams of bards compete in Radio Cymru's annual poetry contest.
SUN 20:00 Ar Eich Cais (m000sgqt)
Ar Eich Cais
Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.
SUN 21:00 John ac Alun (m000sgqy)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.
MONDAY 22 FEBRUARY 2021
MON 00:00 Gweler BBC World Service (m000sgr2)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.
MON 05:30 John Hardy (m000sgr6)
Llŷr Griffiths-Davies yn cyflwyno
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda Llŷr Griffiths-Davies yn lle John Hardy. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.
MON 07:00 Sioe Frecwast (m000shw4)
Dafydd a Caryl
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.
MON 09:00 Aled Hughes (m000sgc0)
Diwrnod Mamiaith
Ffion Strong sy'n ymuno ar ddiwrnod rhyngwladol Mamiaith ac i rannu trefniant o'r gȃn Ysbryd y Nos sydd wedi ei chreu i nodi'r diwrnod. Alun Williams fydd yn rhoi cyfle i bobl Cymru ennill Guinness World Record. Sgyrsiau hefyd gyda Rhys Mwyn am ganfyddiad archeolegol yn Llys Dorfil, a Llio Maddocks sy'n annog plant Cymru i sgwennu stori wrth i ddyddiad cau'r gystadleuaeth sgwennu stori nesáu.
MON 11:00 Bore Cothi (m000sgc6)
Rhinweddau Betys
Nerys Howells sy'n sôn am rinweddau betys, ac mae Andrew Tamplin yn ymuno i lansio ymgyrch 'Gwener Gwenu'!
MON 12:30 Dros Ginio (m000sgcd)
Dewi Llwyd
Dewi Llwyd a'i westeion yn trafod y newyddion diweddaraf am Covid-19 yn dilyn Cynhadledd Llywodraeth Cymru; chwaraeon y penwythnos a phrosiect pymtheg newid hinsawdd.
Hefyd hiliaeth ar-lein tuag at bêl-droedwyr - ydan ni'n colli'r frwydr? Oes angen gwneud mwy? A gwestai 'dau cyn dau' ydy’r Barnwr a’r darlledwr Nic Parry a’i ferch Anna Lois
MON 14:00 Ifan Evans (m000sgcj)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.
MON 17:00 Post Prynhawn (m000sgcn)
Post Prynhawn
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Nia Thomas.
MON 18:00 Troi'r Tir (m000sgcs)
Ffermio yn Swydd Efrog, mart Llanymddyfri a hoff anifail anwes
Mae Terwyn Davies yn clywed hanes Rhisiart Paul o Benrhyndeudraeth, sydd bellach yn ffermio yn Skipton, Swydd Efrog.
Hefyd, Derfel Harries yn sôn am ei waith fel arwerthwr ym mart Llanymddyfri.
A mwy o blant Cymru yn esbonio beth yw eu hoff anifail anwes.
MON 18:30 Recordiau Rhys Mwyn (m000sgcx)
Kraftwerk
Pwyll ap Siôn yn trafod datblygiad cerddorol y grŵp electronig Kraftwerk ffurfiodd yn ninas Düsseldorf yn Yr Almaen.
MON 21:00 Stiwdio (m000sgd1)
Clwb Darllen Stiwdio- 'Blasu' gan Manon Steffan Ros
Mae hi'n nos Lun olaf y mis ac mae hyn yn golygu fod Clwb Darllen Stiwdio yn cwrdd, a'r mis yma y nofel "Blasu" gan Manon Steffan Ros sy'n cael ei thrafod. Mae Catrin Beard yn cael cwmni Elin Jones a Catrin Gerallt i drafod y nofel, yn ogystal â chael gair efo'r awdur.
Hefyd, sylw i ddrama newydd gan Ian Rowlands sydd wedi bod yn aros dros flwyddyn am gynulleidfa, a chawn hefyd hanes y Clwb Stori Gymraeg gan Fiona Collins a Sian Miriam.
MON 22:00 Geraint Lloyd (m000sgd5)
Tirion Davies sydd yn derbyn Her yr Het wythnos yma, a chawn glywed am gwt llefrith Llangristiolus.
TUESDAY 23 FEBRUARY 2021
TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m000sgd9)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.
TUE 05:30 John Hardy (m000sgdf)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.
TUE 07:00 Sioe Frecwast (m000sgkm)
Dafydd a Caryl
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.
TUE 09:00 Aled Hughes (m000sgdr)
Dysgu Englyn
Beth Angell a Gwawr Eleri James yn trafod actorion yn newid eu cyrff ar gyfer rhannau; Mererid Hopwood yn gosod her i'r cof dysgu englyn; Llyfr newydd Tudur Morgan 'Llwybrau Ddoe', a Llinos Griffin yn sôn am bwythau plastig.
TUE 11:00 Bore Cothi (m000sgdt)
Elgan Llŷr Thomas
Y tenor Elgan Llŷr Thomas sydd wrthi yn rhoi synnwyr i'w synhwyrau tra byddwn ni'n mynd dros Glawdd Offa gyda Glenda Gardiner.
Carol Hardy sy'n rhoi munud i ni gael meddwl.
TUE 12:30 Dros Ginio (m000sgdw)
Jennifer Jones
Jennifer Jones a'i gwesteion yn trafod:
Y newyddion diweddaraf am Covid-19
Penodi Caplaniaid i'r Heddlu
Hanes merch sydd wedi gwirfoddoli mewn cartrefi gofal ar adeg mor bryderus
Hetiau, beth sydd yn ddeniadol am wisgo het!
TUE 14:00 Ifan Evans (m000sgdy)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.
TUE 17:00 Post Prynhawn (m000sgf0)
Post Prynhawn
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.
TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m000sgf2)
Hyder a sut i ddelio gyda nerfau
Hanna Hopwood Griffiths sy'n cael cwmni Marian Evans a Non Haf i drafod hyder yn y gweithle a sut i ddelio gyda nerfau.
TUE 18:30 Sian Eleri (m000sgf4)
'Stems'- Elin Edwards yn ail-gymysgu trac Yr Ods
Sian Eleri yn cyflwyno cymysgedd o gerddoriaeth newydd i ymlacio iddi. Yn ‘Stems’- cyfle cyntaf i glywed ail-gymysgiad Elin Edwards o drac Yr Ods. A sgwrs efo’r darlunydd Heledd Owen am ei dyfyniadau a darluniau positif.
TUE 21:00 Dei Tomos (m000sgf6)
Plâu, cerddi a chymharu eisteddfodau
Y Parchedig Alun Tudur sy'n manylu ar sawl pla ar hyd yr oesoedd - o bla'r Aifft yn y Beibl i'r Cofid 19 presennol. Mae Trystan Lewis yn datgelu pam fod un o gerddi John Roderick Rees yn ei gyfareddu tra bod Elen Haf yn cymharu tair eisteddfod leol rhwng 1890 a 1910.
TUE 22:00 Geraint Lloyd (m000sgf8)
Y cynhyrchydd cerddorol Rich Roberts o Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, sydd yn sôn am ei swydd ddiddorol.
Ble fydd Ar y Map wythnos yma?
WEDNESDAY 24 FEBRUARY 2021
WED 00:00 Gweler BBC World Service (m000sgfc)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.
WED 05:30 John Hardy (m000sgfh)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.
WED 07:00 Sioe Frecwast (m000sgfd)
Dafydd a Caryl
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.
WED 09:00 Aled Hughes (m000sgfj)
Cofio Byn Walters
Y gantores Lleuwen Steffan yn cofio'r diweddar Byn Walters o Ferthyr Tudful fu'n cadw Tafarn Tŷ Élise yn Plouyé, Llydaw; Yr hanesydd bwyd Carwyn Graves yn trafod rhai o fwydydd Cymru sydd wedi mynd yn angof; a Sian Llywelyn Thomas sy'n sôn am sut mae Hwb Menter Cymru yn rhoi cefnogaeth i fusnesau. Yr artist Seren Morgan Jones yn trafod gwaith yr arlunydd Edvard Munch a'r graffiti ar ei ddarlun enwog "The Scream".
WED 11:00 Bore Cothi (m000sgfl)
'Pethau Bychain'
Eilir Owen Griffiths yn sgwrsio am ddathliad o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant - “Pethau Bychain”; a Siân Francis o elusen “Goldies” fydd yn sgwrsio am sesiynau canu arlein.
WED 12:30 Dros Ginio (m000sgfn)
Vaughan Roderick
Vaughan Roderick a’i westeion yn trafod:
Y newyddion diweddaraf am Covid-19
Rhifyn olaf wythnoslyn Undeb y Bedyddwyr, Seren Cymru
Hanes gohirio Cyfrifiad 1921
WED 14:00 Ifan Evans (m000sgfq)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.
WED 17:00 Post Prynhawn (m000sgfs)
Post Prynhawn
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.
WED 18:00 Byd Iolo (m000sgfv)
[Repeat of broadcast at
18:30 on Sunday]
WED 18:30 Lisa Gwilym yn Cyflwyno... (m000sgfx)
Cerddoriaeth newydd Cymru. New Welsh music.
WED 21:00 Y Talwrn (m000sgfz)
[Repeat of broadcast at
19:00 on Sunday]
WED 22:00 Geraint Lloyd (m000sgg1)
Bardd y Mis - Sian Northey
Mae bardd y mis, Sian Northey, yn ymuno â Geraint, ac Angela Skym yw Ffrind y Rhaglen.
THURSDAY 25 FEBRUARY 2021
THU 00:00 Gweler BBC World Service (m000sgg3)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.
THU 05:30 John Hardy (m000sgg5)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.
THU 07:00 Sioe Frecwast (m000sjms)
Dafydd a Caryl
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.
THU 09:00 Aled Hughes (m000sjmv)
Stampiau a'r cyswllt Cymreig
Sgwrs am bwysigrwydd arwyddo gyda Lois Hughes, Seren Lois Evans sy'n gwneud ymchwil ôl-radd ar effaith anafiadau rygbi, mae Miriam Dafydd yn ymuno i sôn am offer sy'n gwneud bywyd yn haws, ac mae Twm Elias newydd ysgrifennu llyfr newydd am Stampiau a'r cyswllt Cymreig.
THU 11:00 Bore Cothi (m000sjmx)
Gŵyl Rithwir 72
Mae Shân yn cael cwmni Bethan Rhiannon o’r grŵp gwerin Calan i sôn am Ŵyl Rithwir 72, a Naomi Saunders sy'n ymuno i drafod planhigion y tŷ.
THU 12:30 Dros Ginio (m000sjmz)
Catrin Haf Jones
Catrin Haf Jones a’i gwesteion yn trafod:
A ddylech chi archebu eich gwyliau haf 2021 a'i peidio?
Cyfieithu ar y pryd mewn llysoedd
A yw’r wasg yn dueddol o dargedu menywod yn fwy na dynion?
THU 14:00 Ifan Evans (m000sjn1)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.
THU 17:00 Post Prynhawn (m000sjn3)
Post Prynhawn
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.
THU 18:00 Penben I Dimau (m000sjn5)
Nia a Tudur v Ianto a Bethan
Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol.
Mae Nia a Tudur yn gweithio i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yng Ngheredigion, ac mae ganddyn nhw 3 o blant – Cadi, Iori ac Eben sy’n eu cadw nhw’n brysur iawn yn ôl y disgwyl! Mae rygbi yn rhan bwysig o’n bywydau fel arfer hefyd– Tudur yn chwarae i C.R Aberaeron ers rhyw 18 flynedd a Nia eisoes wedi chwarae yn timau Ieuenctid gan gynnwys Gorllewin Cymru, ond bellach yn arwain pwyllgor y menywod ar ran Clwb Aberaeron. A’u ‘claim to fame’ – mae Nia yn mynnu hyd heddiw bod Ieuan Evans wedi pigo hi allan yn y dorf a rhoi winc iddi ar ôl sgorio cais i’r Llewod yn Ne Affrica yn 1997! Er mi gwrddodd Tudur a ‘Rhino’ o’r rhaglen ‘Gladiators’ tua’r un amser – yn Llanarth, Ceredigion o bobman.
Mae Ianto yn gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Rhondda Cynon Taf, canu â chôr Bechgyn Bro Taf, a chefnogi tîm rygbi'r Gleision. Ffaith ddiddorol: Mi oedd yn y Brifysgol gyda'r dyn sy'n modelu'r plismon sydd y tu allan i ddrysau Homebargains. Ddim yn ei nabod yn dda.
Mae Bethan yn athrawes ddrama yn Ysgol Glantaf, ac mae’n cefnogi tîm pêl-droed Wolverhampton Wanderers (Wolves). Ffaith ddiddorol: Cynrychiolodd Dîm Bowlio Cymru dan 18 ym Mhencampwriaethau Ewrop, ond mae cyfleoedd i chwarae wedi bod yn brin eleni, yn sgil y pandemig. Mae ganddyn nhw gi, Llew, sy’n mwynhau bwyta esgidiau pawb!
THU 18:30 Byd Huw Stephens (m000sjn7)
Sian Harries
Sgwrs gyda Donna Lee o'r band Sister Wives am eu sengl newydd.
Ffion Wyn sy'n rhannu rhai o'i hoff bethau o'r mis diwethaf.
Sian Harries sy'n dewis y Caneuon Wnaeth Newid Ei Bywyd.
THU 21:00 Beti a'i Phobol (m000sgq6)
[Repeat of broadcast at
13:00 on Sunday]
THU 22:00 Geraint Lloyd (m000sjn9)
Tirion Davies a Her yr Het
Cawn glywed sut hwyl mae Tirion Davies wedi ei gael gyda Her yr Het, a chyfle i drafod rhywbeth o'r byd Moduro.
FRIDAY 26 FEBRUARY 2021
FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m000sjnc)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.
FRI 05:30 John Hardy (m000sjnf)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.
FRI 07:00 Sioe Frecwast (m000sklg)
Huw Stephens
Cerddoriaeth ac adloniant gyda Huw Stephens. Music and entertainment breakfast show with Huw Stephens.
FRI 09:00 Trystan ac Emma (m000sk85)
Gemau Bwrdd
Gemau Bwrdd sy'n cael sylw Trystan ac Emma. Dyfed Bowen o gwmni What Board Games sy'n trafod gemau bwrdd sy'n helpu dysgu o adre. Mae Kevin Thomas o Glwb Rygbi Castell Newydd Emlyn yn ôl i edrych mlaen at y gêm fawr dros y penwythnos, ac wrth gwrs Cwis Yodel Ieu.
FRI 11:00 Bore Cothi (m000sk87)
Huw Stephens a Iolo Williams
Huw Stephens yn sgwrsio am raglen deledu newydd ar y BBC sef 'The Story of Welsh Art' a Iolo Williams sy'n sôn am ei gyfraniad fel mentor yn y rhaglen "Iaith Ar Daith" ar S4C.
Alaw Owen sydd yn rhoi munud i ni gael meddwl.
FRI 12:30 Dros Ginio (m000sk89)
Dewi Llwyd
Dewi Llwyd a'i westeion yn trafod:
Y newyddion diweddaraf am Covid-19 yn dilyn Cynhadledd Llywodraeth Cymru
Penwythnos o chwaraeon
Deg mlynedd ers dechrau'r trafferthion yn Libya
Llyfr newydd ar hanes Cymru yn y Weriniaeth Siec
Hanes gŵyl rithiol 'Bangors y Byd' i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Mangor
FRI 14:00 Tudur Owen (m000sk8c)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.
FRI 17:00 Post Prynhawn (m000sk8f)
Post Prynhawn
Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.
FRI 18:00 Lauren Moore (m000sk8h)
Dwy awr o gerddoriaeth yng nghwmni Lauren Moore. Two hours of music with Lauren Moore.
FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m000sk8k)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.
FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m000sk8m)
Chris, y cwisfeistr ei hun, sydd yn dod i roi tips i Ffion ar sut i wneud yn dda yng nghwis Geth a Ger.
Cawn ryseit iach gan y cogydd Chris Summers.