SATURDAY 23 JANUARY 2021

SAT 00:00 Gweler BBC World Service (m000rfxl)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SAT 05:30 Richard Rees (m000rfxn)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar gyfer bore Sadwrn. Music and companionship for Saturday morning.


SAT 07:00 Sioe Frecwast (m000rml2)
Daniel Glyn

Y newyddiadurwraig Mared Parry sy'n ateb cwestiynau diog Dan. Trac o ffilm, trac techno'r wythos a llawer mwy.


SAT 09:00 Tudur Owen (m000rmbv)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Saturday morning.


SAT 11:00 Y Sioe Sadwrn (m000rmbx)
Y Sioe Sadwrn

Y gantores Non Parry sy'n dewis ei chaneuon codi calon. Cân a chwis efo Trystan ab Owen, sylwebaethau'r wythnos gan Owain Llyr ac mi fyddwn ni'n hel atgofion am flwyddyn arbennig.


SAT 14:00 Chwaraeon Radio Cymru (m000rmbz)
Chwaraeon Radio Cymru

Sylwebaethau byw, yn ogystal â chanlyniadau a'r newyddion chwaraeon diweddaraf. Live commentaries, as well as results and the latest sports news.


SAT 17:30 Marc Griffiths (m000rmc1)
Marc Griffiths

Cymysgedd o'r hen a'r newydd i ddiddanu ar nos Sadwrn, gan gynnwys llwyth o geisiadau. Music old and new, including plenty of Saturday night requests.


SAT 21:00 Ffion Emyr (m000rmc3)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ar nos Sadwrn, gyda Ffion Emyr. Music and companionship for Saturday night.



SUNDAY 24 JANUARY 2021

SUN 00:00 Gweler BBC World Service (m000rmc5)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


SUN 05:30 Linda Griffiths (m000rmc7)
Ar drothwy Dydd Santes Dwynwen, Linda Griffiths sy'n dewis ei hoff ganeuon serch - hen a newydd.


SUN 07:00 Sioe Frecwast (m000rmy1)
Lisa Gwilym

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Lisa Gwilym. Heledd Watkins o HMS Morris sydd yn rhannu ei dydd Sul Perffaith a Santes Dwynwen yw pwnc yr Ysgol Sul.


SUN 10:00 Swyn y Sul (m000rmsn)
Lloyd Macey

Lloyd Macey yn dewis cerddoriaeth ar gyfer bore Sul hamddenol, a'r thema yw dathliadau. Lloyd Macey chooses music from celebrations around the world.


SUN 12:00 Yr Oedfa (m000rmsq)
Oedfa ar ffurf sgwrs rhwng Rhian Linecar a John Roberts yn trafod ME a chymorth ffydd

Oedfa ar ffurf sgwrs rhwng Rhian Linecar a John Roberts yn trafod ME a chymorth ffydd, gan gyfeirio at Salm 31 a hanes y wraig a gyffyrddodd â mantell yr Iesu yn efengyl Luc.


SUN 12:30 Bwrw Golwg (m000rmss)
Cefndir Catholig Jo Biden, iaith synhwyrus Ann Griffiths ac opera sebon yn achub bywyd

John Roberts yn trafod:

- Cefndir Catholig Joe Biden, gyda Dorian Llywelyn a Jerry Hunter

- Iaith synhwyrus emynau Ann Griffiths, gyda Derec Llwyd Morgan

- Grym yr opera sebon, gyda Bethan Mair

- Ymchwiliad Gwenfair Griffith i'r awgrym fod mwy o bobl yn troi at ffydd yn ystod y pandemig


SUN 13:00 Beti a'i Phobol (m000rlrr)
Eric Jones

Beti George yn sgwrsio gydag Eric Jones, cyfansoddwr y darn corawl "Y Tangnefeddwyr".

Mae'n sôn am ei yrfa fel athro a phrifathro, ei gyfnod fel cyfeilydd Côr Meibion Pontarddulais a hefyd am gydweithio gyda'r band Pink Floyd.


SUN 14:00 Cofio (m000rmsv)
Sir Gâr

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. Yr wythnos hon, rydym yn troedio lonydd Sir Gaerfyrddin. Beti Wyn James sy'n ymestyn croeso iddo; Dai Davies sy'n hiraethu am hen farchnad Llanelli; Mae Ceinwen Williams yn Cofio Ffair gyflogi Gŵyl Ifan a chlywir anerchiad Gwynfor Evans yn fuddugoliaethus ar sgwâr Caerfyrddin ym Mis Hydref 1974.

Russell Davies sy'n edrych yn ôl ar hanner canrif o fywyd cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, ac Adrian Gregory sy'n cofio dechrau gyrfa yn y clybiau. Mae dylanwad y band Gorky Zygotic Mynci ar Ellis James ac Ian Johnson yn cael ei ystyried ac mae Bethan Wyn Jones a Dei Tomos yn chwalu chwedl meddygon Myddfai.

Mae Tom Evans a Tom Marks yn olrhain hanes porthmyn Sir Gâr; Carwyn James sy'n talu teyrnged i Ray Gravell a Megan Morris sy'n cofio seren y sgrin Rachel Roberts pan oedd y ddwy yn cyd-fyfyrio yn Aberystwyth.


SUN 15:00 Hywel Gwynfryn (m000rmsx)
Hywel Gwynfryn

Amrywiaeth o gerddoriaeth, yn ogystal â phytiau o raglenni Radio Cymru o'r wythnos a fu. Music and Radio Cymru programme highlights.


SUN 16:30 Caniadaeth y Cysegr (m000rmsj)
Caniadaeth y Cysegr

Hanner awr o ganu cynulleidfaol. Congregational singing.


SUN 17:00 Stori Tic Toc (m000rmsz)
Y Gofod

Mae Elin yn breuddwydio am gael mynd am daith i’r gofod, tybed a ddaw ei breuddwyd yn wir? Elin dreams of a trip to space, will her dream come true?


SUN 17:05 Dei Tomos (m000rmt1)
Hanes taith Gill Stephen o gefndir difreintiedig di-Gymraeg yng Nghaerdydd i arwain Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Mae Gill hefyd yn dewis ei hoff gerdd - Boi gan Gwyn Thomas.

Mae Dafydd Roberts yn rhannu ei hanes fel Ceidwad yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis ar ei ymddeoliad ar ôl 40 mlynedd wrth y llyw, a chawn hanes y Santes Ursula (o dras Gymreig ond a laddwyd yn yr Almaen) gan Jane Cartwright.

Hefyd, Alun Ffred sy'n trafod nofelau T. Wilson Evans.


SUN 18:30 Caru'r We (m000rlf8)
Rhaglen yn edrych ar sut mae perthnasau cariadus wedi datblygu dros y degawdau, o'r cyfnod mwy diniwed efallai wedi'r Ail Ryfel Byd hyd heddiw, lle mae pobl yn cyfarfod ar-lein.


SUN 19:00 Y Talwrn (m000rlfj)
Criw'r Ship yn herio Bro Alaw

Criw'r Ship a Bro Alaw yn cystadlu i fod yn bencampwyr Y Talwrn yn 2021. Two teams of bards compete in Radio Cymru's annual poetry contest.


SUN 20:00 Ar Eich Cais (m000rmt3)
Ar Eich Cais

Rhys Meirion yn darllen cyfarchion ac yn chwarae ceisiadau. Rhys Meirion reads greetings and plays requests.


SUN 21:00 John ac Alun (m000rmt5)
Cerddoriaeth a sgwrsio i gloi'r penwythnos. Music and chat to bring the weekend to a close.



MONDAY 25 JANUARY 2021

MON 00:00 Gweler BBC World Service (m000rmt7)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


MON 05:30 John Hardy (m000rmt9)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau.


MON 07:00 Sioe Frecwast (m000rmtc)
Dafydd a Caryl

Dathlu Santes Dwynwen gyda Lowri Ifor, Hywel Llion sy'n dewis Pigion Teledu yr wythnos, ac Ysgol y Gelli Caernarfon sy'n dewis Tiwn y Timau!


MON 09:00 Aled Hughes (m000rmtf)
Dydd Santes Dwynwen

Nest Gwenllian Roberts sy'n taflu goleuni ar rai o gyplau enwog y sgrîn fach a hithau'n Ddiwrnod Santes Dwynwen.

Hefyd Rufus Mufasa sy'n adlewyrchu ar gerdd Amanda Gorman yn seremoni urddo Joe Biden fel arlywydd America; a chlywed am y syniad o greu crwydr calonnau gan Buddug Cope.


MON 11:00 Bore Cothi (m000rmth)
Y gomediwraig a phartner Rhod Gilbert, Sian Harries sy'n sôn am y rhaglen 'Rhod Gilbert: Stand Up to Infertility'.

Menna Baines sy'n cynnig Munud i Feddwl i ni; a hefyd tips ar gadw meddwl iach gydag Andrew Tamplin.


MON 12:30 Dros Ginio (m000rmtk)
Dewi Llwyd

Dewi Llwyd a'i westeion yn trafod y newyddion diweddaraf am Covid-19 ac yn edrych yn nôl ar benwythnos o chwaraeon.

 hithau'n Ddiwrnod Santes Dwynwen a all rhywun farw o dorcalon?

Hefyd, cofio damwain trên Abermiwl, ar Ionawr 26, 1921; dathlu pen-blwydd Duolingo yn 5 oed; a gwestai ‘dau cyn dau’ ydy Eurig Salisbury, a'i chwaer Leila Griffiths


MON 14:00 Ifan Evans (m000rmtm)
Ar Ddydd Santes Dwynwen, y gantores Bronwen Lewis yw gwestai arbennig Ifan Jones Evans. Singer Bronwen Lewis is Ifan's guest on St Dwynwen's Day.


MON 17:00 Post Prynhawn (m000rmtp)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Nia Thomas yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Nia Thomas.


MON 18:00 Troi'r Tir (m000rmsg)
Profiadau pobl cefn gwlad Cymru o dynnu coes eithafol ar noson cyn priodas. Experiences of mischief on the eve of weddings in the countryside.


MON 18:30 Recordiau Rhys Mwyn (m000rmtr)
Caneuon Dolly Parton

Gwyneth Glyn sy'n trafod llyfr Dolly Parton "“Songteller : My Life in Lyrics”


MON 21:00 Stiwdio (m000rmtt)
Sylw heno i "AM", y platfform celfyddydol digidol sy’n paratoi i ail-lansio wedi blwyddyn gyntaf hynod o brysur.

Mae Clwb Darllen Stiwdio yn cyfarfod am y tro cyntaf, a’r nofel dan sylw ydy "Ar Drywydd Llofrudd" gan Alun Davies. Catrin Beard sy'n sgwrsio gyda'r awdur yn ogystal â thrafod efo dau ddarllenydd brwd.

Hefyd, mae'r cerddorion Elinor Bennett a Geraint Lewis yn talu teyrnged i’r telynor fyd enwog Osian Ellis, fu farw’n ddiweddar.


MON 22:00 Geraint Lloyd (m000rmtw)
Sophie Rudge o Ynys Manaw sydd yn derbyn Her yr Het, ac Eryl Evans yn trafod Grwp Garddio Menter Silian.



TUESDAY 26 JANUARY 2021

TUE 00:00 Gweler BBC World Service (m000rmty)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


TUE 05:30 John Hardy (m000rmv0)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau.


TUE 07:00 Sioe Frecwast (m000rmy5)
Dafydd a Caryl

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.


TUE 09:00 Aled Hughes (m000rmy7)
Ceir yn Hedfan

Y gohebydd moduro Mark James sy'n ystyried technoleg a fydd yn golygu bod ceir yn medru hedfan.

Hefyd, Lis Mclean ac Efa Lois yn sôn am y cynlluniau cyffrous i droi Castell Cyfarthfa, Merthyr yn amgueddfa; ac a hithau'n gyfnod clo, Marian Brosschot sy'n rhannu cyngor ar sut i ddysgu ieithoedd. Sgwrs hefyd gyda


TUE 11:00 Bore Cothi (m000rmy9)
Nan Hughes yn son am gadw'n ffit â hithau yn 80 oed; Denzil John sy'n rhoi Munud i Feddwl i ni; ac mae Jonathan Simcock yn sôn am ddathliad Gwyl Dewi Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby trwy gyfrwng Zoom.


TUE 12:30 Dros Ginio (m000rmyc)
Jennifer Jones

Jennifer Jones a’i gwestion yn trafod y newyddion diweddaraf am Covid-19 a chlywed stori bersonol am effaith tymor hir Covid-19 ar y corff

Hefyd, trafod yr heriau i rieni wrth ddysgu plant gydag anghenion arbennig yn y cartref; yr heriau sy’n wynebu cyflogwyr wrth i fwy a mwy weithio o gartref yn sgil Covid-19; ydy gwrando ar gerddoriaeth clasurol yn llesol i’r corff wrth ymarfer? A hanes damwain trên Abermiwl ganrif yn nôl i heddiw.


TUE 14:00 Ifan Evans (m000rmyf)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


TUE 17:00 Post Prynhawn (m000rmyh)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.


TUE 18:00 Gwneud Bywyd yn Haws (m000rmyk)
Hanna Hopwood Griffiths sy'n holi be sy'n gwneud bywyd yn haws i Elain Evans, dylunudd print o Rhuthun sy'n byw ac yn gweithio yn Sydney; Lucy Brooke-Saunders, perchennog siop ddillad yng Nghaerfyrddin; a Gwenith Evans, therapydd cerdd sydd newydd symud adref i ardal Aberteifi o Seland Newydd.


TUE 18:30 Sian Eleri (m000rmym)
Cyfle cyntaf i glywed ail gymysgiad Nathan Williams o drac Thallo.

A gyda hithau’n Wythnos Lleoliadau Annibynnol, Leigh Jones o Riff Rock Records sy'n sôn am bwysigrwydd lleoliadau annibynnol.


TUE 21:00 Dei Tomos (m000rmyp)
Hanes taith Gill Stephen o gefndir difreintiedig di-Gymraeg yng Nghaerdydd i arwain Menter Iaith Fflint a Wrecsam, ac mae Gill hefyd yn dewis ei hoff gerdd - 'Boi' gan Gwyn Thomas.

Dafydd Roberts sy'n dweud ei hanes fel Ceidwad yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis ar ei ymddeoliad ar ôl 40 mlynedd wrth y llyw; ac mae Alun Ffred yn trafod nofelau T. Wilson Evans.


TUE 22:00 Geraint Lloyd (m000rmyr)
Cawn glywed am ymgyrch i ddenu mwy o swyddogion tân yn Llanbed, a sgwrs Busnesa gyda Bethan Evans.



WEDNESDAY 27 JANUARY 2021

WED 00:00 Gweler BBC World Service (m000rmyt)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


WED 05:30 John Hardy (m000rmyw)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau.


WED 07:00 Sioe Frecwast (m000rldg)
Dafydd a Caryl

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.


WED 09:00 Aled Hughes (m000rldl)
Lili Wen Fach

Bethan Beech o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn trafod y Lili Wen Fach - yr arwydd pendant fod y gwanwyn ar ei ffordd.

Hefyd, Dr Elen Ifan sy'n annog pobl i ddarllen gan drafod pa lyfrau Cymraeg i'w hystyried; a Sarah Roberts - athrawes yn Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen - sydd wedi creu gwefan addysgiadol Gymraeg newydd sbon.


WED 11:00 Bore Cothi (m000rldq)
Beca Lyne-Pirkis yn cynnig syniadau ac awgrymiadau am sut i bobi'r gacen siocled berffaith i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Gacen Siocled.

Hefyd, yr actor Dewi Rhys sydd yn ein harwain drwy synnwyr y synhwyrau ac felly'n dewis ei hoff sŵn, ei hoff flas, a'i hoff arogl; a Caryl Haf sy'n cynnig cyfle i arafu ac i bwyllo gyda Munud i Feddwl.


WED 12:30 Dros Ginio (m000rldv)
Vaughan Roderick

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod ynewyddion diweddaraf am Covid-19; yr her o gynnal a chadw pontydd, yn sgil dymchwel Pont Llannerch yn ystod storm Christoph yr wythnos diwethaf; a phwy sydd yn ysgrifennu ein hanes?

Hefyd, hnes grŵp cenedlaetholgar a diwylliannol o'r enw 'Cylch Dewi' a oedd yn ymgyrchu ar ddechrau'r 1920au; a chofio cyfnod clwy'r traed a'r genau 20 mlynedd yn nôl


WED 14:00 Ifan Evans (m000rlf0)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


WED 17:00 Post Prynhawn (m000rlf4)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.


WED 18:00 Caru'r We (m000rlf8)
[Repeat of broadcast at 18:30 on Sunday]


WED 18:30 Lisa Gwilym yn Cyflwyno... (m000rlfd)
Gwyl Celtic Connections

I ddathlu'r ffaith bod Gŵyl Celtic Connections yn digwydd yn rhithiol o Glasgow ar hyn o bryd, cawn awr o sgyrsiau a cherddoriaeth werin.

Cyn hynny, pwy sydd yn cuddio tu ôl i'r twll clo cerddorol wythnos hon?


WED 21:00 Y Talwrn (m000rlfj)
[Repeat of broadcast at 19:00 on Sunday]


WED 22:00 Geraint Lloyd (m000rlfn)
Sgwrs gyda Elfyn Wyn Jones o Dubai; a Carol Garddio yw Ffrind y Rhaglen.



THURSDAY 28 JANUARY 2021

THU 00:00 Gweler BBC World Service (m000rlfr)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


THU 05:30 John Hardy (m000rlft)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau.


THU 07:00 Sioe Frecwast (m000rm3z)
Dafydd a Caryl

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Dafydd a Caryl. Music and entertainment breakfast show with Dafydd and Caryl.


THU 09:00 Aled Hughes (m000rlr5)
Hanes Sanau!

Rae Carpenter ac Elen Rowlands sy'n edrych mlaen i'r paratoadau ar gyfer cyfres nesa FFIT Cymru; Gav Murphy yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Lego; Nia Dryhurst yn trafod y broses o gynhyrchu rhaglen ddogfen arbennig o'r enw "Chwaer Fawr, Chwaer Fach"; a'r arbenigrwaig ffasiwn Sina Haf Hudson yn olrhain hanes sanau!


THU 11:00 Bore Cothi (m000rlr9)
Tafod syniadau am sut y gallwn newid y ffordd yr ydym yn byw, a hynny heb adael y tŷ. Gwennan Jenkins sy'n sgwrsio am ffyrdd y gellir arbed arian ar rai o’r gwasanaethau hynny sy’n hanfodol yn y cartref, a Sally Williams sy'n ein cyflwyno i sesiynnau ymarfer corff newydd sydd i’w cael yn rhithiol.


THU 12:30 Dros Ginio (m000rlrf)
Catrin Haf Jones

Trin a thrafod Cymru a’r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.


THU 14:00 Ifan Evans (m000rlrk)
Digon o gerddoriaeth, chwerthin a sgwrsio, yn ogystal â chystadleuaeth neu ddwy. Music and chat, plus a competition or two.


THU 17:00 Post Prynhawn (m000rlrm)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.


THU 18:00 Benbaladr (m000rp85)
Dyfodol y Deyrnas Unedig, Economi China ac Amrywiad De Affrica

Cawn glywed am effaith Brexit ar Liam Andrews sydd yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac Eleri Surrey yn Gibraltar.

Karl Davies sy'n dod a'r diweddaraf am economi China, sydd yn parhau i dyfu er gwaetha'r pandemig.

Sut mae pobl De Affrica yn ymateb i'r sylw rhyngwladol sydd yn cael eu roi'r amrywiad o'r feirws yno? Meirion Griffiths o Johannesburg sy'n egluro.


THU 18:30 Byd Huw Stephens (m000rlrp)
Cerddoriaeth newydd, ambell berl anghyfarwydd o'r archif, a mix gwaith cartref. New music, an occasional unfamiliar gem from the archives, plus a homework mix.


THU 21:00 Beti a'i Phobol (m000rlrr)
[Repeat of broadcast at 13:00 on Sunday]


THU 22:00 Geraint Lloyd (m000rlrt)
Sophie Rudge sy'n son am Her yr Het yr wythnos hon, a hanes car trydanol Antur Aelhaearn, Carwyn.



FRIDAY 29 JANUARY 2021

FRI 00:00 Gweler BBC World Service (m000rlrw)
Mae Radio Cymru'n ymuno â'r World Service dros nos. Radio Cymru joins the World Service overnight.


FRI 05:30 John Hardy (m000rlry)
Cerddoriaeth a chwmnïaeth ben bore, gyda bwletinau newyddion, chwaraeon, tywydd a thraffig. Hefyd, y bwletin amaeth dyddiol, yn ogystal â golwg ar y papurau. Early breakfast.


FRI 07:00 Sioe Frecwast (m000rnsm)
Huw Stephens

Cerddoriaeth ac adloniant gyda Huw Stephens. Music and entertainment breakfast show with Huw Stephens.


FRI 09:00 Trystan ac Emma (m000rnpn)
Trafod Tatŵs!

Elin Mai o Lanberis sy'n ymuno i drafod tatŵs, mae William Owen o Gaernarfon yn dewis Cân i'r Bore, a Yodel Ieu sydd yn ei ôl efo'i gwis wythnosol.


FRI 11:00 Bore Cothi (m000rnpq)
Penwythnos Adar yr Ardd

Cawn gwmni Rhys Aneurin wrth iddo sôn am Benwythnos Adar yr Ardd, Elin Maher sy'n cynnig Munud i Feddwl i ni, a chawn fynd dros Glawdd Offa gydag Wmffre Davies.


FRI 12:30 Dros Ginio (m000rnps)
Dewi Llwyd

Dewi Llwyd a'i westeion yn trafod:

Y newyddion diweddaraf ynglŷn â Covid-19

Trafod gwasanaeth digidol newydd 'GB News' sydd ar fin cael ei lawnsio

Pwysigrwydd yr ymdeimlad o berthyn i fenywod sy’n ceisio lloches yng Nghymru

Sgwrs gyda'r Cymro Cymraeg sy'n ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Greenwich

Penllanw'r ymgyrch #poster 2020 Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Edrych ymlaen at benwythnos o chwaraeon


FRI 14:00 Tudur Owen (m000rnpv)
Lot o fwydro, 'chydig o sylwedd, dim swmp. Music and laughs for Friday afternoon.


FRI 17:00 Post Prynhawn (m000rnpx)
Post Prynhawn

Newyddion y dydd yng Nghymru a thu hwnt, gyda Dylan Jones yn cyflwyno. The day's news in Wales and beyond with Dylan Jones.


FRI 18:00 Lauren Moore (m000rnpz)
Lisa Pedrick sy'n dewis cân i ddechrau'r penwythnos, a Dyfrig Evans yw ein hartist 3 trac.


FRI 20:00 Penwythnos Geth a Ger (m000rnq1)
Cerddoriaeth a hwyl gyda Geth a Ger, gan gynnwys Llinell yr Wythnos Pobol y Cwm! Music and fun to start the weekend.


FRI 22:00 Nos Wener Ffion Emyr (m000rnq3)
Ffion Emyr yn tanio'r penwythnos gyda dwy awr o gerddoriaeth. Music to start the weekend with Ffion Emyr.